Fel rhan o ymrwymiad parhaus Griffiths i hyrwyddo’r defnydd o’r Iaith Gymraeg yn y gweithle, mae’r Cwmni’n ail-lansio menter, a lansiwyd yn wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol 2017, i arddangos y logo oren ‘Iaith Gwaith’ ar hetiau caled ein staff sy’n siarad Cymraeg.
Yn dilyn apêl ddiweddar i staff sy’n siarad Cymraeg ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ynghylch y defnydd priodol o’r Iaith Gymraeg, mae’r Grŵp Hyrwyddwyr Cymraeg newydd, sydd wedi nodi un o’u hamcanion allweddol fel cwrdd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn benodol y nod llesiant ‘Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu’, yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o’r logo ar hetiau caled eto, gyda’r lansiad yn digwydd ar ddydd Llun, 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r grŵp hefyd yn bwriadu datblygu’r defnydd o’r logo Iaith Gwaith ar lofnodion e-bost yr holl staff swyddfa sy’n siarad Cymraeg.
Cydnabyddir yn eang bod y logo ‘Iaith Gwaith’, a ddatblygwyd gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yn dangos bod unigolyn yn siarad Cymraeg ac yn cael ei ystyried yn ffordd syml i annog defnydd o’r Gymraeg nid yn unig yn y gweithle ond hefyd wrth ddelio ag aelodau o’r cyhoedd y mae ein gwaith yn effeithio arnynt.
Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:
Mae’n galonogol gweld cwmnïau fel Griffiths, sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau, yn gweld buddion defnyddio’r logo Iaith Gwaith.
Mae arddangos y logo Iaith Gwaith ar hetiau caled yn ffordd hawdd ac effeithiol i ddangos bod y cwmni’n gwerthfawrogi ac yn dathlu sgiliau a datblygiad dwyieithog eu staff, a’u bod yn falch o allu cynnig gwasanaethau Cymraeg i’w cwsmeriaid, cleientiaid a’u rhanddeiliaid.
Dywedodd Simon Dunn, Cyfarwyddwr Cyn-adeiladu gyda Griffiths
Fel Cwmni rydym yn credu’n gryf ym manteision a gwerth defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hyrwyddo’r iaith ymhlith ein gweithlu, mae hefyd yn ein helpu i ddod yn fwy adlewyrchol o’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt ac yn dangos ein hymrwymiad i agwedd ‘iaith Gymraeg sy’n ffynnu’ Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym ni’n gobeithio y bydd y logo Iaith Gwaith ar ein hetiau caled yn annog aelodau’r cyhoedd i ymgysylltu â’n timau yn Gymraeg.
***
As part of Griffiths’ ongoing commitment to promote the use of the Welsh Language in the workplace, the Company are relaunching an initiative, originally launched at the 2017 National Eisteddfod, to display the orange ‘Iaith Gwaith’ logo on the hard hats of our Welsh speaking staff.
Following a recent appeal for Welsh speaking staff to provide support and guidance regarding the appropriate use of the Welsh Language, the newly formed Welsh Language Champions Group, who have identified one of their key objectives as meeting the aims of the Well-being of Future Generations Act, and in particular the ‘Vibrant Culture and Thriving Welsh Language’ wellbeing goal, were keen to promote the use of the logo on hard hats again, with the launch taking place on Monday, 1st March, St David’s Day. They also intend to develop the use of the Iaith Gwaith logo on the email signatures of all Welsh speaking, office based, staff.
The ‘Iaith Gwaith’ logo, developed by the Welsh Language Commissioner’s Office, is widely recognised as indicating that an individual speaks Welsh and is seen as a simple way to encourage the use of Welsh not only in the work place but also when dealing with members of the public affected by our work.
Welsh Language Commissioner, Aled Roberts said:
It’s encouraging to see companies like Griffiths, who are rooted in our communities, seeing the benefits of using the Iaith Gwaith logo.
Displaying the Iaith Gwaith logo on hard hats is an easy and effective way of showing that the company values and celebrates their staff’s bilingual skills and development, and that they are proud to be able to offer Welsh language services to their customers, clients and stakeholders.
Simon Dunn, Pre-construction Director with Griffiths commented:
As a Company we strongly believe in the benefits and value of using the Welsh Language in the workplace. As well as promoting the language amongst our workforce, it also helps us become more reflective of the communities in which we work and demonstrates our commitment to the ‘thriving Welsh language’ aspect of the Future Generations Act. We hope the Iaith Gwaith logo on our hard hats will encourage members of the public to engage with our teams in Welsh.