Mae Griffiths yn uwchraddio Pont Reilffordd eiconig Abermo. Rydyn ni’n cynnal y gwaith adfer mwyaf ar y bont yn ei hanes. Bydd ein gwaith uwchraddio yn amddiffyn y bont boblogaidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac sicrhau ei bod mor odidog ag erioed. Mae’r strwythur wedi’i adeiladu mewn 2 ran – pont bren 113 rhychwant a phont fetel 4 rhychwant. Cyfanswm ei hyd yw 820 metr.
Mae’r bont, sydd dros 150 oed, mewn cyflwr gwael. Rydyn ni eisoes wedi adnewyddu 113 rhychwant y bont bren, gwaith a gwblhawyd adeg y Nadolig 2021.
Nawr rydym yn disodli’r 4 rhychwant metel, yn ogystal ag adnewyddu’r is-strwythur. Mae’r rheilffordd ar gau am 12 wythnos rhwng 2 Medi a 25 Tachwedd, ac mae’r timau wedi’u lleoli yng Nghompownd Morfa (ochr ddeheuol y bont) ac yn Rhodfa’r Môr (ochr ogleddol y bont).
Mae’r dull o ddymchwel yr hen strwythur a gosod y strwythur newydd yn un arloesol ac unigryw. Adeiladwyd rheilffordd dros dro yng nghompownd y safle i dreialu’r gwaith o osod a chludo’r prif rychwantau er mwyn gallu ymarfer y gwaith. Mae’r gwaith o ddymchwel yr hen rychwantau a gosod y rhychwantau newydd yn cael ei wneud drwy ddefnyddio trawst dur dros dro hir fel yr ardal weithio, ynghyd â chraeniau nenbont. Mae’r hen bont sydd wedi’i dymchwel yn cael ei gollwng i lawr ar bontynau a’i chludo i ffwrdd ar y môr.
Rydyn ni bellach ar ddiwedd wythnos 3 allan o’r 12 ac mae’r gwaith yn parhau yn unol â’r rhaglen. Mae’r prosiect yn heriol gan fod cyflymderau gwynt (unrhyw beth dros 29 mya) ac amodau’r llanw, yn ogystal â llanw isel ac uchel, yn gallu effeithio’n andwyol ar y gwaith. Rydyn ni mewn sefyllfa dda gyda’n timau gweithgar a’n cadwyn gyflenwi yn sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen fel y dylai.