Croeso i Griffiths. Contractwr peirianneg sifil cynaliadwy ydym ni ac rydym yn helpu i gysylltu cymunedau drwy ffyrdd, rheilffyrdd, dŵr a chyfleustodau. Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni prosiectau o’r ansawdd uchaf mewn modd iach, diogel a chynaliadwy er mwyn gwella bywydau pob dydd pobl. Fel cwmni rhanbarthol, mae lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardaloedd ble rydym yn byw ac yn gweithio yn reddfol i ni. Rydym yn buddsoddi yn y cymunedau lleol hyn drwy bob prosiect y byddwn yn ei gyflawni.
Mae ein gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol yn cynnwys dros 1,000 o weithwyr hynod alluog ac ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi’n dda. Mae ein sylfaen gref o gwsmeriaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Network Rail, National Highways, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol, Cwmnïau Cyfleustodau a detholiad o sefydliadau sector preifat.
Bod yn fusnes cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Rydym yn adeiladu gwell seilwaith i’n cwsmeriaid a’n cymunedau
PENDERFYNOL
PARCHUS
BALCH
CYDWEITHREDOL
Gyda hanes sy’n ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd, mae Griffiths yn un o’r contractwyr peirianneg sifil a rheilffordd blaenaf sy’n gweithio ledled Cymru a Chanolbarth a De-Orllewin Lloegr.
Yn 2018, daeth Griffiths yn rhan o Tarmac, busnes deunyddiau adeiladu cynaliadwy blaenaf y Deyrnas Unedig sy’n is-gwmni dan berchnogaeth lwyr CRH. CRH yw un gwmnïau deunyddiau adeiladu blaenaf y byd. Mae ein safle o fewn y grŵp hwn yn rhoi mynediad i ni at gyfoeth o arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol a’r cyfle i rannu arloeseddau.
Cyfarwyddwr Seilwaith
Cyfarwyddwr cyn Adeiladu
Cyfarwyddwr Peirannau a Chludiant
Mae ein tîm profiadol yn ymfalchïo mewn sefydlu perthynas hirdymor ar bob lefel o fewn y sefydliadau sy’n gwsmeriaid i ni, trwy bob rhan o’r gadwyn gyflenwi a chyda rhanddeiliaid. Cliciwch ar y lluniau i gael gwybod mwy.
Cwrdd â’r holl dîm