Roedd Griffiths wrth ein bodd yn cael gwahoddiad gan ein cwsmer, Trafnidiaeth Cymru, i fod yn rhan o gynllun peilot newydd i helpu i adsefydlu troseddwyr a darparu cyfle iddyn nhw newid eu bywydau drwy hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae menter ‘Datblygu’r Dyfodol – Ar y Lein Iawn’ yn cyfateb yn dda i’n Polisi Gwerth Cymdeithasol; mae’n gynllun peilot partneriaid sy’n darparu cyfle i unigolion sydd yn y carchar i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, a’u partneriaid, ar Brosiect Metro De Cymru.
Fel rhan o Gynghrair Trafnidiaeth Cymru, cawsom wahoddiad i gwrdd â throseddwyr a’u cyfweld wedi i ni fynd trwy eu CVau. Roedd y broses gyfweld, a hwyluswyd gan Trafnidiaeth Cymru, yn debyg i’n trefniadau recriwtio ein hunain ac arweiniodd at gynnig gwaith cyflogedig gyda ni i ddau droseddwr, a elwir yn ddirprwyon.
Roedd y ddau ddirprwy, a ddechreuodd gyda ni ddechrau mis Tachwedd 2021 wedi bod â chymwysterau Diogelwch Personol ar Draciau (PTS) yn o’r blaen, a chytunwyd y byddem yn datblygu a chryfhau eu gwybodaeth gyda sgiliau a hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys ymwybyddiaeth asbestos, hyfforddiant osgoi ceblau a gweithio tuag at NVQ Lefel 2 mewn Adeiladu.
Mae’r ddau ddirprwy’n cael eu cludo’n ddyddiol o Garchar Prescoed ac maent wedi dod yn aelodau allweddol o’r Tîm ar weithfeydd Pecyn 7 ar Linell Graidd y Cymoedd yn Aberdâr. Gweithiodd y ddau ddirprwy dros y Nadolig yn cynorthwyo gyda gwaith dymchwel Pompren y Diafol ger Trefforest yn ystod cyfres o gyfnodau meddiannu’r rheilffordd.
Cyn y fenter hon, roedd y dirprwyon wedi defnyddio’u hamser yn y carchar i ennill cymwysterau, gan weithio tuag at ddiplomâu NEBOSH ac IOSH, ac o ganlyniad, mae un o’r dirprwyon wedi dangos diddordeb arbennig mewn Iechyd a Diogelwch. Er mwyn helpu i feithrin y diddordeb hwn, mae Tîm y Prosiect wedi caniatáu iddo gysgodi ein Cynghorydd Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd Neil Jones, i’w gynorthwyo i gael gwell dealltwriaeth o’r rôl.
Dywedodd y Rheolwr Adeiladu, Andrew (Tommy) Gunning, sydd wedi bod yn rhan o’r fenter gyffrous hon o’r dechrau:
Roedd y ddau ddirprwy wedi dod yn rhan o’n Tîm ar unwaith, maen nhw’n gweithio’n galed ac yn awyddus i ddysgu. Maen nhw wedi bod yn agored ynglŷn â’u gorffennol ac mae eu cydweithwyr wedi croesawu hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weld y fenter hon yn parhau fel y gallwn ni gyflogi rhagor o ddirprwyon a helpu i sicrhau bod yr unigolion hyn yn parhau i ffynnu wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Mae’r fenter yn golygu bod y ddau ddirprwy yn weithwyr cyflogedig i Griffiths a byddan nhw’n parhau i gael eu cyflogi gan y Cwmni wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths, Stephen Tomkins:
Mae gadael gwaddol cadarnhaol yn y cymunedau ble rydyn ni’n gweithio yn rhan ganolog o’n gwerthoedd craidd. Mae gallu cynorthwyo unigolion i ddod yn ôl at waith a darparu’r hyfforddiant i’w galluogi i lwyddo yn dystiolaeth o’r gwerthoedd craidd hyn. Hoffwn i ddiolch i’r ddau ddirprwy a’u llongyfarch ar eu cyfraniad i’r prosiect a’u hymrwymiad i ddatblygu eu hunain drwy hyfforddiant a chymwysterau.