Wedi i waith adfer cynharach ar arglawdd ar lan Llyn Tegid fethu â datrys y broblem gyda symudiad y tir, darparodd Griffiths ddatrysiad ble cafodd System Glyfar i Fonitro Angorau a ddatblygwyd gan DYWIDAG Ltd ei gosod am y tro cyntaf yn y byd. Mae’r system yn galluogi monitro perfformiad yr ased o bell, ynghyd â hysbysiadau rhybuddio cynnar.
Mae rhan ogleddol yr A494 yn un o’r cefnffyrdd prysuraf yng Nghymru ac mae’n allweddol i dwristiaeth ac economi leol Gwynedd.
Roedd erydu sylweddol wedi gwanhau arglawdd sy’n cynnal rhan o’r ffordd ar hyd glan ogleddol Llyn Tegid. Cwblhawyd cynllun i drwsio’r arglawdd a’i amddiffyn rhag difrod pellach yn 2008. Fodd bynnag, tua diwedd 2009, bu cwymp yn y tir a chafodd arolygon eu comisiynu gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) i fonitro a chofnodi’r symudiad.
Dangosodd y data fod y tir wedi parhau i symud a bod hynny’n effeithio ar y llwybr cerdded. O ganlyniad, ailadeiladwyd y rhwystr atal cerbydau ar hyd ochr y rhan hon o’r ffordd. Rhoddwyd peirianwyr ar waith i ymchwilio i achos y symudiad ac i ddarparu cynllun manwl ar gyfer sefydlogi’r arglawdd 180m ar ei hyd.
Yn 2018, treialwyd hoelion pridd gan ddefnyddio hoelion pridd sy’n drilio’u hunain a bu hynny’n rhannol lwyddiannus, gan arafu symudiad y tir yn sylweddol, ond nid yn gyfan gwbl. Ond yn gynnar yn 2020, dirywiodd cyflwr sylfaen y rhwystr diogelwch gan olygu nad oedd y datrysiad gyda hoelion pridd yn effeithiol. Gan mai prif bryder NMWTRA oedd diogelwch y system atal cerbydau, gosodwyd goleuadau traffig dros dro er mwyn cau’r lôn tua’r de. Oherwydd pwysigrwydd yr A494, roedd NMWTRA yn awyddus i ganfod datrysiad parhaol a fyddai’n caniatáu i’r ffordd gael ei hailagor cyn gynted â phosib.
Rhoddodd NMWTRA Alun Griffiths (Construction) Ltd ar waith trwy drefniant ymwneud cynnar gan y contractiwr i ddatblygu datrysiad. Drwy gydweithio ag Ymgynghoriaeth Gwynedd (swyddfa ddylunio Cyngor Gwynedd) a DYWIDAG, ystyriwyd nifer o opsiynau ar gyfer adfer yr arglawdd a’r datrysiad a ffafriwyd oedd defnyddio wal gynnal/cap seilbyst concrit wedi’i glymu/angori 75m o hyd, gyda seilbyst angori wedi’u gosod 2m ar wahân a’u plannu yn y creigwely. Byddai’r adeiledd hwn yn cynnal y system atal cerbydau a’r rhwystr cerddwyr a byddai’r briffordd a’r llwybr yn cael eu hailraddio a’u hailwynebu.
Byddai’r datrysiad arfaethedig yn gwella ffactor diogelwch yr arglawdd, gan leihau unrhyw symudiad un y tir a’r craciau roedd hynny’n ei achosi yn y briffordd, a darparu dyluniad ddylai barhau am 120 o flynyddoedd.
Gosodwyd cyfanswm o 36 o angorau tir ag Amddiffynfa Ddwbl rhag Cyrydu (DCP) ar ongl o 45o, a’u hyd ar gyfartaledd yn 18m, gan gynnwys tua 15m o hyd rhydd (a chynnwys 1.7m ar gyfer yr adeiledd) a 3m o hyd wedi’i lynu.
O’r 36 angor a osodwyd yn Llanycil, mae 12 yn Angorau Clyfar sydd â dyfais fonitro wedi’i hymgorffori sy’n casglu, prosesu a rhoi rhybuddion am ddata amser real o synwyryddion er mwyn darparu golwg gyfunol o gyflwr sylfaen yr adeiledd.
Caiff llwyth yr Angor Clyfar ei fonitro’n aml gan synhwyrydd mesur grym unigryw, gyda’r data maes yn cael ei drosglwyddo i lwyfan ar gwmwl. Caiff y data eu dosbarthu wedyn trwy rybuddion ar ysbeidiau a osodir ymlaen llaw a gellir cael gafael arnynt ar y llwyfan 24/7. Mae’r trosglwyddydd a’r batri wedi’u lleoli’n allanol ac wedi’u gosod o fewn poced angor y wal gynnal. Mae’r trosglwyddydd yn cyfleu data amser real synwyryddion pob angor i uned ddarllen gerllaw ac oddi yno fe’u hanfonir trwy borth canolog trwy’r llwyfan ar gwmwl o’r enw ‘Infrastructure Intelligence’.
Caiff y mesuriadau amledd neu bwynt amser eu cymryd ar ysbeidiau rheolaidd, er enghraifft bob 15 munud, gyda’r Angor Clyfar yn cymryd darlleniad o’r llwyth ar y pryd. Gellir lleihau’r amledd er mwyn ymestyn oes batri’r trosglwyddydd. Caiff y lefelau ysgogi rhybudd eu penderfynu ymlaen llaw gan y cleient a’u tîm peirianegol, a chaiff rhybuddion eu hanfon unwaith y bydd y lefelau hyn yn cael eu cyrraedd.
Mae Infrastructure Intelligence yn cyflwyno data maes amser real ar bob dyfais, yn gyfrifiaduron desg, dyfeisiau tabled a ffonau clyfar, gan ddefnyddio porwr cynhenid y ddyfais. Mae’r ‘gefaill digidol’ 3D yn galluogi’r defnyddiwr i symud trwy’r safle rhithiol o bell fel petaent yn y safle ei hunan. Mae hynny’n cynnwys symud dros ac o dan adeileddau ac edrych ar bob elfen o bersbectif 360o. Mae’n darparu dehongliad digidol cyfredol o amgylchedd y safle drwy ddefnyddio diweddariadau telemetrig byw.
Mae Llanycil wedi dyrchafu technoleg angori tir i’r lefel nesaf. Mae’r cleient nawr yn gallu cael gwybod am fân broblemau cyn iddyn nhw ddod yn broblemau difrifol.