Pan welodd Network Rail gyfle i gynnal gwaith yr oedd angen brys amdano ar lain o amddiffynfeydd môr yng Ngogledd Cymru, gofynnon nhw i Griffiths ddatblygu datrysiad ar fyr rybudd. Yn wyneb amserlen hynod dynn a olygai ei bod hi’n amhosib cael Trwydded Forol, datblygodd Griffiths ddyluniad a methodoleg briodol.
Wedi’u lleoli rhwng pentrefi Afon Wen a Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn, mae Amddiffynfeydd Môr Afon Wen yn ased 1,260m o hyd sy’n ddiogelu rhan o reilffordd Arfordir y Cambria a’r morfa heli sydd y tu ôl iddi rhag llifogydd ac erydu arfordirol.
Mae dwy brif ran i’r amddiffynfeydd môr. Mae un rhan yn wal gerrig a mortar gyda ffedog goncrit gymharol newydd o’i baen â llen rwystrol agored ar hyd y droed. Mae’r rhan arall wedi’i ffurfio o greigiau amddiffyn.
Yn dilyn asesiad o’r amddiffynfeydd môr yn 2014, gwelodd Network Rail bod angen gwaith adnewyddu gan fod rhannau sylweddol mewn cyflwr gwael oherwydd gwendidau oedd yn ganlyniad uniongyrchol i erydu arfordirol. Roedd y môr wedi sgwrio’r haen isaf o dywod a thandorri wyneb y clogwyn gan achosi llithriadau trawsfudol a chylchlithriadau yn y clogwyn, ac erydu llinell y grib hyd at 5m i gledren fyw agosaf y rheilffordd.
Cynyddodd graddfa’r erydu/diraddio yn sylweddol yn ystod 2019 a 2020 a chyflymwyd hynny gan stormydd difrifol ym mis Chwefror a mis Awst 2020. Roedd y Matrics Gwerthuso Risg (REM) ar gyfer yr ased yn dangos risg uchel ar gyfer sgwrio. Roedd yr erydu mor ddifrifol y gallai’r storm arwyddocaol nesaf, pe na bai ymyrraeth frys, fod wedi cael effaith ar barth cynnal y trac, neu hyd yn oed wedi tanseilio’r trac.
Gan fod gan Network Rail gyfnod cau o 16 diwrnod wedi’i gynllunio ar gyfer gwaith Pont y Bermo (a ddarparwyd gan Griffiths hefyd), penderfynwyd defnyddio’r cyfle hwnnw i fynd i’r afael â’r gwaith brys ar Amddiffynfeydd Môr Afon Wen.
Gofynnodd Network Rail i Griffiths ddatblygu datrysiad ar gyfer cynllun adfer a sicrhau unrhyw ganiatadau amgylcheddol angenrheidiol. Fodd bynnag, oherwydd yr amserlen dynn, nid oedd modd cael Trwydded Forol. Felly, datblygodd Griffiths fethodoleg ar gyfer cynnal y gwaith uwchlaw Llinell Cymedr Penllanw’r Gorlanw ar y traeth. Roedd hynny’n golygu dod i lawr drwy’r creigiau amddiffyn er mwyn osgoi gweithio ar y traeth. Roedd y fethodoleg yn ystyried lefelau’r llanw a’r topograffi lleol yn y safle a datblygwyd patrymau gweithio shifftiau er mwyn lliniaru effaith llanw uchel ar amseroedd gweithio.
Unwaith y cafodd y cynllun a’r fethodoleg eu cymeradwyo, a dim ond ychydig wythnosau i fynd tan y cyfnod cau, gweithiodd Griffiths er mwyn sicrhau y byddai’r 6000 tunnell o greigiau amddiffyn ar gyfer y llain 120m yn cael eu cludo i’r safle a’u didoli cyn y cyfnod cau. Roedd hynny’n golygu 550 o deithiau cludo cerrig a ddaeth i raddau helaeth o chwareli o fewn radiws 10 milltir o’r prosiect ac a gludwyd gan gwmnïau cludo lleol.
Er mwyn goresgyn yr her o gael mynediad a symud yr holl ddeunyddiau roedd eu hangen i wneud y gwaith o fewn y cyfnod cau, storiodd Griffiths beiriannau cloddio mewn chwarel gerllaw er mwyn sicrhau y gellid symud y creigiau amddiffyn i’r safle mewn pryd.
Cyn gynted ag y dechreuodd y cyfnod cau, bu Griffiths yn gweithio 24/7 er mwyn gosod y creigiau amddiffyn gan ddefnyddio peiriannau cloddio 50T, 36T, 22T ac 14T. Cafwyd cyfanswm o 10,000 o oriau gwaith staff â dim amser wedi’i golli yn sgil anafiadau/digwyddiadau.
Wedi cwblhau’r gwaith o osod y creigiau amddiffyn, defnyddiodd Griffiths Gerbyd Hedfan Di-griw (UAV) i gwblhau’r arolwg ‘fel y’i hadeiladwyd’, gan osgoi’r angen i gael mynediad at fannau anodd eu cyrraedd.
Elfen arloesol arall a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith oedd gosod systemau Monitro Cyflwr o Bell (RCM) Findlay Irvine. Gyda synwyryddion gogwyddo a chamerâu, mae modd osod RCM mewn safleoedd risg uchel er mwyn darparu systemau rhybuddio cynnar ar gyfer colli cynhaliaeth rheilffyrdd / erydu arfordirol.
Mae’r cynllun a ddarparwyd yn darparu cynllun ar gyfer digwyddiad 1 mewn 200 mlynedd.