ARGLAWDD HEOL LLWYNCELYN

Adfer llain 170m o arglawdd presennol oedd yn llithro wrth ochr y B4278 Heol Llwyncelyn, Y Porth, Rhondda Cynon Taf (RhCT).

Griffiths MEWP removing trees. Gweithredwyr Griffiths sydd wedi’u hyfforddi i safonau NPTC yn torri 1 o 14 o goed aeddfed gan ddefnyddio MEWP.
Griffiths team installing soil nails into slope. Staff Geodechnegol Griffiths yn gosod hoelion pridd yn y llethr sy’n llithro.
Falsework and formwork for capping beam Ffugwaith a ffurfwaith a ddefnyddiwyd i adeiladu trawst capio newydd.
Key clamp fence, Lwyncelyn. Y gwaith wedi’i gwblhau gan gynnwys gorffeniad gyda ffens clampiau allwedd er mwyn galluogi cynnal a chadw’r arglawdd yn y dyfodol.
B4278 Llwyncelyn Road, Porth

Ym mis Rhagfyr 2021, penododd RhCT Griffiths drwy SEWHF i ddylunio ac adeiladu adeiledd addas fyddai’n gallu cynnal arglawdd serth wrth ochr cerbytffordd a llwybr cerdded mewn amgylchedd trefol prysur,

Roedd yr arglawdd wedi cael ei wneud yn or-serth yn hanesyddol er mwyn creu lle i wal a llwybr cerdded oedd yno gydag ymgripiad pridd yn peri i gerrig copa’r wal gael eu disodli. Yn ogystal, roedd yn debygol bod nifer o ffynonellau dŵr o fewn y llethr yn cyfrannu at symudiad yr arglawdd drwy ymgripiad bas, yn ogystal â gollwng dŵr ar y llwybr cerdded a’r gerbytffordd gan beri risg sylweddol o gael rhew dros gyfnod y gaeaf.

Roedd y gwaith adfer yn cynnwys cal gwared ar 14 o goed aeddfed, mân-waith ailraddio ar wyneb yr arglawdd, gosod angorau creigiau/hoelion pridd a systemau rhwydi ar draws arwyneb yr arglawdd, adeiladu trawst capio o goncrit cyfnerth wedi’i gysylltu â’r wal gynnal bresennol, gosod systemau draenio newydd y tu ôl i’r wal a gosod ffens clampiau allwedd ar ben y wal ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.

Penododd Griffiths Hydrock Consultants Limited i gynhyrchu dyluniad manwl yn unol â gofynion y cleient a’r ymgynghorwyr rheoli dylunio CAPITA.

Gan ddefnyddio’r adeiledd presennol fel sylfaen, byddai cyfres o folltiau craig a hoelion pridd yn cael eu gosod wrth gefn y wal wedi’u cysylltu â dur atgyfnerthu a hoelbrennau fertigol o ddur gwrthstaen er mwyn atal y trawst capio newydd rhag cylchlithro.

Penododd Griffiths Quantum Traffic Management i gau un lôn a gosod dargyfeiriad byr o gwmpas y dref er mwyn amharu cyn lleied â phosib ac fe greodd hynny amgylchedd gwaith diogel tra roedd defnydd gweithredol arferol unffordd yn dal ar gael i breswylwyr a rhanddeiliaid lleol.

Dechreuodd y gwaith tua dechrau mis Chwefror 2022 am gyfnod o 9 wythnos gan ddefnyddio compownd addas oddi ar y safle er mwyn sicrhau digon o ofod gweithio ar gyfer y dilyniant adeiladu pendant gan sicrhau bod sefydlogrwydd yr arglawdd ac ansawdd y gwaith adeiladu yn cael eu cynnal yn ofalus drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Gan ddefnyddio ein tîm Geodechnegol mewnol sy’n cynnwys peirianwyr, technegwyr mynediad â rhaff, staff wedi’u hyfforddi i safonau NPTC a gweithredwyr peirianneg sifil, cyflawnodd Griffiths yr holl waith ein hunain gan ddefnyddio peiriannau trymion a chyfarpar sydd dan berchnogaeth a rheolaeth ein hadran llogi peiriannau fewnol.

Llwyddwyd i gwblhau’r holl waith yn y cyfnod 9 wythnos heb unrhyw ddamweiniau na digwyddiadau ac er boddhad i’r cleient.

GRIFFITHS YN GWEITHIO YN Y GYMUNED

Griffiths delivering arisings
Treforest near Lwyncelyn

Trafododd Griffiths gyda’r Cleient er mwyn cynnig cefnogaeth i brosiectau cymunedol lleol y byddai deilliannau gwastraff ein gwaith o gymorth iddynt.

Cafodd 12t o naddion coed deilliannol eu cludo’n rhad ac am ddim i brosiect cymunedol lleol yn Nhrefforest gerllaw.

EXPLORE MORE Geotechnical