Cafodd Griffiths eu penodi gan Gyngor Sir Fynwy i adeiladu trawst ymyl concrit i rwystro unrhyw gwympiadau pellach ar lethr wrth ochr ffordd wledig brysur.
Roedd y safle wedi’i leoli 100m i’r gogledd o Ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 rhwng Brynmawr a’r Fenni. Y parth gwaith ydy’r lôn Ddeheuol ar ran o’r Brif Heol yn ardal Craig Ddu yn Sir Fynwy.
Prif ddiben y gwaith oedd sefydlogi’r llethr gan ddefnyddio cyfres o hoelion pridd haearn gwrthstaen wedi’u gosod i ddyfnder o tua 8m ac yna adeiladu wal gynnal newydd o goncrit cyfnerthedig gyda ffens o byst a rheiliau pren ar ei phen.
Roedd y gwaith i’w gynnal o fewn un lôn gaeedig gan ddefnyddio goleuadau traffig dwy-ffordd a oedd wedi bod yn eu lle ers y llithriad a ddigwyddodd yn ystod storm Dennis ym mis Ionawr 2020. Defnyddiodd Griffiths Forest Support Services i ofalu am gwaith o reoli’r traffig, gan gynnwys trafodaethau gyda’r gwaith deuoli ar A465 Blaenau’r Cymoedd.
Cafodd Griffiths eu penodi gan Gyngor Sir Fynwy drwy Fframwaith Priffyrdd De-ddwyrain Cymru i gyflawni’r prosiect mewn man oedd wedi peri anhwylustod i gymudwyr lleol ers cyfres o ddigwyddiadau storm a gafwyd yn gynnar yn 2020.
Dechreuodd tîm y prosiect weithio ar y safle ym mis Mehefin 2021, ryw 4 mis wedi derbyn y contract, gan leoli unedau lles addas a digonol o fewn y parth a oedd eisoes wedi’i gau gan y mesurau Rheoli Traffig.
Cynlluniwyd prif gorff y gwaith mewn modd fyddai’n sicrhau bod gyrwyr yn gallu mynd a dod yn ddiogel wrth fynd heibio yn y lôn Ogleddol agored rhwng Maesygwartha a Brynmawr.
Un o’r prif heriau i dîm y prosiect oedd prif bibell ddŵr 225mm a oedd newydd gael ei gosod tua 1.5m o ymyl y gerbytffordd ar ddyfnder o 900mm yn uniongyrchol yn llinell yr holl hoelion pridd arfaethedig.
Er mwyn osgoi taro’r brif bibell ddŵr wrth osod yr hoelion pridd, gofynnodd tîm y prosiect i Ddŵr Cymru gymeradwyo ein cynnig i gloddio â llaw ger y brif bibell ddŵr a gosod pibell bridd 150mm yn uniongyrchol o dan y bibell ddŵr ar ongl o 30o o’r llorweddol yn unol â chais y dylunydd.
Wedi i’r brif bibell ddŵr gael ei chanfod yn bendant ac i’r llystyfiant gael ei glirio o ymyl y ffordd, dechreuodd y prif waith cloddio gyda pheiriant cloddio 13T nad yw ei gynffon yn ymwthio o gwbl er mwyn gweithio’n ddiogel o fewn y lôn oedd wedi’i chau i draffig.
Yn dilyn y gwaith cloddio, roedd modd i’n drilwyr Geodechnegol osod yr hoelion pridd trwy’r bibell, gan sicrhau na fyddai’r brif bibell ddŵr yn cael ei difrodi yn ystod y prif waith drilio.
Wedi i’r holl hoelion pridd gael eu gosod, aeth gweithwyr Griffiths ati i adeiladu’r cawell cyfnerthu ar sylfaen goncrit, gosod ffurfwaith a ffugwaith pren a thywallt yr ychydig goncrit (4m3) drwy ddefnyddio cymysgwr cyfeintiol er mwyn osgoi gwastraffu deunyddiau drud.
Gosodwyd y canllaw pren wedi i’r trawst ymyl sychu ac i wyneb y gerbytffordd gael ei ailosod yn barod i ailagor y ffordd i draffig.
Cafodd yr holl waith ei gwblhau yn ôl y cynllun heb unrhyw ddamweiniau na digwyddiadau, o fewn y gyllideb ac o fewn amserlen y rhaglen.