CYFNEWIDFA TRAFNIDIAETH BOW STREET

Mae pentref Bow Street yng Ngheredigion yn manteisio ar gysylltiadau newydd diolch i’r gwaith i ailagor Gorsaf Bow Street, a fu ynghau i drenau ers 1965. Hanner cant a chwech o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r prosiect £8m, y treuliwyd 11 mlynedd yn ei gynllunio, wedi ailgysylltu’r orsaf o’r diwedd â Lein y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig.

Aerial view of Bow Street transport interchange Golwg ar y safle o’r awyr yn dangos yr orsaf, y maes parcio a’r gwaith ffordd cysylltiedig.

Mae’r prosiect, a gyflawnwyd gan Griffiths ar ran Trafnidiaeth Cymru, yn cynnwys platfform 100m, maes parcio 8000m2 â 75 gofod, ffordd fynediad newydd drwy gyffordd groesgam â’r A487, cysgodfa fysiau a man gollwng / casglu teithwyr. Dyma’r orsaf gyntaf i’w hagor yng Nghymru ers Tref Glyn Ebwy ym mis Mai 2015, ac un gyntaf Trafnidiaeth Cymru ers iddynt dderbyn masnachfraint rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn 2018.

Fel rhan o’r datblygiad newydd, adeiladwyd ffordd fynediad newydd i gysylltu’r orsaf reilffordd a’r gyfnewidfa trafnidiaeth gysylltiedig â’r A487. Yn ogystal, diwygiwyd dyluniad cyffordd yr A487/A4159 i greu dynesfa dwy-lôn ar yr A4159 a gosod cyfleusterau croesi newydd i gerddwyr a beicwyr.

Rhoddwyd nifer o fentrau cynaliadwyedd ar waith yn ystod y Cyfnod Adeiladu, gan gynnwys ailddefnyddio deunyddiau ar gyfer gwaith pridd, gosod system ddraenio gynaliadwy eang yn y maes parcio, a thriniaeth arloesol ar gyfer clymog Japan.

Datblygodd Griffiths Gynllun Datblygu Cynaliadwy cynhwysfawr ar gyfer y prosiect hefyd, gan ddefnyddio llafur lleol a gwario’n helaeth ar wasanaethau a deunyddiau gyda BBaChau lleol. Darparodd Griffiths 52 wythnos o hyfforddiant hefyd.

Group posing with banner at start oof work on Bow Street transport interchange Cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru, Network Rail, Cyngor Sir Ceredigion ac Alun Griffiths yn ymuno â’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth i’r gwaith ar yr orsaf newydd ddechrau.

Cafodd Erfyn Cyfrifo Ôl Troed Economaidd Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i gyfrifo’r manteision i’r economi leol, a chafwyd Lluosydd Lleol Cymreig o £1.91. Mae hyn yn golygu bod y prosiect werth bron i £16m i economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yr orsaf newydd yn ‘cynhyrchu’ 30,000 o deithiau blynyddol ac yn tynnu 466,000 o filltiroedd cerbydau (750,000km) oddi ar y rhwydwaith ffyrdd bob blwyddyn, gan sicrhau gostyngiad o tua 106 tunnell y flwyddyn mewn allyriadau carbon.

Un canlyniad hollbwysig i’r orsaf newydd ydy nad oes rhaid i’r trigolion lleol deithio i Aberystwyth i gyrraedd eu gorsaf drenau agosaf a’i bod yn lleihau trafferthion parcio yng ngorsaf Aberystwyth.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ar ailagor yr orsaf yn 2015. Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd bod cyllid ar gyfer yr orsaf wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Drafnidiaeth. Fodd bynnag, mynegodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bryderon ynglŷn â llifogydd posib yn y maes parcio, felly cyflwynodd Trafnidiaeth Cymru gynllun diwygiedig i Gyngor Sir Ceredigion ym mis Awst 2019 a oedd yn delio a phryderon CNC. Roedd y cynllun diwygiedig yn cynnwys gosod dau danc arafu gyda chyfaint cyfunol o 561m3. Drwy ddefnyddio’r system hon, mae llifiau storm o’r maes parcio a’r platfform sydd wedi’u dal yn ôl yn cael eu gollwng trwy siambrau llif i ffos sy’n suddfan ddŵr. Gosodwyd dau ryng-gipiwr olew hefyd er mwyn gwahanu unrhyw halogyddion a sicrhau nad ydynt yn cael eu gollwng i’r dŵr daear lleol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y cynlluniau newydd ym mis Medi 2019.

train approaching bow street transport interchange Dechreuodd teithiau trenau o’r orsaf newydd yn dilyn yr agoriad ar ddydd Sul 14 Chwefror 2021.

Bow Street ydy’r drydedd gorsaf i’w hagor yng Nghymru o fewn saith mlynedd, yn dilyn Canol Tref Glyn Ebwy yn 2015 a Pye Corner ym mis Rhagfyr 2014. Griffiths fu’n gyfrifol am ddarparu Pye Corner hefyd.

Yn dilyn agoriad gorsaf newydd Bow Street ar ddydd Sul 14 Chwefror 2021, dywedodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr ac i’r ardal. Bydd yr orsaf yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd i’r ardal, ac ynghyd â’r llwybrau teithio llesol cyfagos, bydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn modd cynaliadwy.”

Er mwyn datblygu’r orsaf newydd, roedd angen datblygu tir amaethyddol a thir a fu’n cael ei ddefnyddio gan y rheilffordd yn flaenorol. Cafodd bron i 1000t o uwchbridd a dynnwyd o’r safle ei gyfrannu i Glwb Pêl-droed Bow Street gerllaw i’w ddefnyddio i greu maes hyfforddi newydd a oedd yn anwastad ac angen sylw. Darparodd Griffiths 3 gweithredwr am bythefnos yn ogystal â pheiriannau.

Er bod Cyfnod Adeiladu prosiect Cyfnewidfa Trafnidiaeth newydd Bow Street wedi digwydd dan gyfyngiadau pandemig COVID-19 yn ystod 2020, llwyddodd Griffiths a Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y gwaith wedi’i gyflawni’n ddiogel. Ni chofnododd y prosiect anafiadau colli amser ar gyfer oddeutu 80,000 o oriau gweithwyr ar y safle.

EXPLORE MORE Rail