SEFYDLOGI LLETHR PONT STRYD Y NANT

Fel rhan o Brosiect Pont Newydd Stryd y Nant, cafodd adran Geodechnegol Griffiths y gwaith o sefydlogi llethr er mwyn cynnal pad craen a llwyfan gosod seilbyst i hwyluso‘r gwaith ar y gosodiadau parhaol.

Cynllun i osod pont droed newydd oedd cynllun Pont Stryd y Nant, a hynny ar ran Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru fel rhan o waith uwchraddio a thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd. Roedd y bont flaenorol wedi dod i ddiwedd ei hoes ac roedd angen pont newydd er mwyn cydymffurfio â’r safonau diweddaraf a darparu cysylltiadau ychwanegol i gerddwyr a seiclwyr yn yr ardal leol.

Roedd y prif waith ar wella’r tir yn cynnwys gosod seilbyst â tharadr mewn rhannau (SFA) i gynnal sylfeini a cholofnau fertigol y bont. Byddai’r bont yn cael ei chodi i’w lle gan ddefnyddio craen 700T mawr ar lwyfan dros dro cydnerth.

Roedd y lleoliad a nodwyd gan dîm Rheoli Prosiect Griffiths fel yr unig safle ar gyfer gosod pad craen ar ben uchaf llethr pridd yn union wrth ochr y rheilffordd weithredol ac roedd ffordd gludo wedi’i thorri trwy’r canol i ddarparu mynediad i brif safle’r gwaith.

Penododd Griffiths Pascoe Consulting Engineers a greodd Gynllun Gweithiau Dros Dro ar gyfer gosod Angorau Platipus gyda rhwyllwaith cyfnerthedig, wedi’u cadw yn ei le â thrawstiau pren ynghyd â phlât mawr galfanedig i gadw’r holl system yn ei lle.

Cyn dechrau unrhyw waith ar y safle, roedd angen cael gwared â chryn dipyn o lystyfiant aeddfed o’r llethrau serth wrth ochr y rheilffordd. Gan ddefnyddio cyfnodau wedi’u cynllunio o feddiannu’r rheilffordd dros nos, cwblhaodd ein tîm hynod alluog o dechnegwyr mynediad â rhaff y gwaith dros gyfnod o 4 wythnos gan sicrhau bod yr holl goed wedi’u torri heb unrhyw amharu na difrod i seilwaith y rheilffordd.

Er mwyn amharu cyn lleied â phosib ar drigolion ger y lein, defnyddiwyd llifiau cadwyn batri i dorri coed, gyda’r deunydd yn cael ei brosesu yn ystod shifftiau golau dydd. Cafodd yr holl gynnyrch eu cludo’n rhad ac am ddim i brosiect cymunedol ar gyfer defnydd hamdden.

Installation of platypus anchor from toe using 3T excavator
Installation of platypus anchor from top using 13T LR
Warning sign for ALO control measures
Installation of platypus anchor using 180o Excavator
Loading platypus anchor for lock off
Long reach excavator at crest of slope

Cafwyd gwared ar holl wreiddiau’r coed mawr er mwyn dileu unrhyw risg o fethu gosod yr angorau, wedyn gwnaed gwelliannau i’r tir er mwyn atal mân-lithriadau a lleihau’r risg felly gyda symudiadau craen.

Mae gan Griffiths brofiad helaeth o weithio’n agos at y rheilffordd tra mae’n parhau’n gwbl weithredol. Mae’r sgiliau, y wybodaeth a’r galluoedd perthnasol gan ein tîm rheilffordd i gynllunio a lliniaru senarios gwaith cymhleth er mwyn sicrhau y gellir cynnal ein gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol heb beryglu nac amharu ar y rheilffordd weithredol.

Yn Stryd y Nant, roedd angen cynllunio a gweithredu gweithdrefn Unrhyw Linell ar Agor (ALO) gyda mesurau rheoli llym ar waith. Gyda’n cydlynwyr ALO ein hunain yn goruchwylio’r gwaith, roedd cyfyngwyr troi wedi’u gosod ar ein peiriannau cloddio ac roeddent yn gweithio yn unol â’r cynllun mewn parthau gwaith diogel ar wahân heb beryglu diogelwch y rheilffordd.

Oherwydd y cyfyngiadau ar y safle a’r ffordd fynediad gul wrth droed y llethr, roedd angen nifer o beiriannau cloddio gwahanol gyda morthwylion hydrolig er mwyn gosod yr angorau i’r dyfnder angenrheidiol. Mae Griffiths yn berchen ar fflyd eang o beiriannau a chyfarpar a gedwir yn lleol yn Ne Cymru, ac roedd hynny’n rhoi hyblygrwydd a sicrwydd i’r tîm ar y safle y gallent newid y peiriannau yn ôl yr angen heb gyfaddawdu o ran diogelwch, y rhaglen waith na chostau atal gwaith.

Roedd y Cynllun Gweithiau Dros Dro yn gofyn am drefn osod bendant o’r droed i’r brig er mwyn lliniaru cwympiadau posib i’r llethr yn ystod y gwaith. Gan ddefnyddio cyfuniad o beiriant cloddio 3t 360o a pheiriant cloddio 180o o’r ffordd gludo, gosodwyd 50% o’r angorau yn y drefn angenrheidiol. Drwy ddefnyddio peiriant cloddio 13t 360o sy’n estyn ymhell wedi’i leoli 3m o ymyl y brig, roedd modd sicrhau bod y 50% o’r angorau oedd yn weddill yn cael eu gosod yn eu trefn heb beryglu sefydlogrwydd y llethr na diogelwch staff yn ystod y gwaith.

Drwy gydweithio â’n cleient a chynllunwyr y gwaith dros dro, roedd modd i Griffiths sicrhau bod holl angorau’r gwaith yn cael eu gosod mewn modd oedd yn lliniaru unrhyw ymyrraeth â’r gwaith parhaol, ac oherwydd nad oedd angen growt, roedd llai o siawns y byddai unrhyw lithriadau wedi i’r seilbyst gael eu gosod.

Gosodwyd cyfanswm o 32 o angorau Platipus (B6 a B10) i ddyfnder o 7m fan leiaf a’u llwytho hyd at 50kN gyda 150m2 o rwyllwaith B785 wedi’i osod ar ben blanced geotecsdil, gyda thrawstiau pren caled D40 1250 x 250 x 150mm a phlatiau 200 x 200 x 6mm ym mhob pwynt angori.

Mae gan Griffiths gyfoeth o brofiad mewn gwaith sefydlogi llethrau, a hynny’n aml mewn sefyllfaoedd lle mae risgiau cymhleth i iechyd a diogelwch, yr amgylchedd ac ansawdd y datrysiad a ddarperir.

Yn achos prosiect Sefydlogi Llethr Pont Stryd y Nant, roedd nodi’r prif risgiau uniongyrchol i iechyd a diogelwch yn allweddol oherwydd yr angen i gwblhau gwaith adeiladu yn agos at y rheilffordd weithredol heb beryglu sefydlogrwydd y llethr.

Cwblhawyd yr holl waith dros gyfnod o 3 wythnos a hynny ar amser, o fewn y gyllideb ac er boddhad i’n cleient a’n cynllunydd gweithiau dros dro.

EXPLORE MORE Infrastructure