GWELLIANNAU CANOL TREF CIL-Y-COED

Cwblhaodd Griffiths Welliannau Teithio Llesol a Seilwaith Gwyrdd Heol yr Eglwys yng Nghil-y-coed yn llwyddiannus ym mis Mehefin 2021. Nod y prosiect oedd gwella ardal Y Groes yng nghanol tref Cil-y-coed fel gofod sy’n cefnogi llesiant lleol, mentergarwch ac fel cyrchfan sy’n cysylltu canol y dref gyda’r cymdogaethau cyffiniol a Chastell a Pharc Gwledig Cil-y-coed.

Roedd ein gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar dair rhan allweddol o Heol yr Eglwys – Eglwys y Santes Fair, mynedfeydd y Castell a’r Parc Gwledig ac Ysgol Gynradd Castle Park.

Mae system ddraenio â slotiau cynnil yn taro’r llygad yn llawer gwell na chwterydd traddodiadol a systemau grid, ac felly hefyd y celfi stryd o gerrig naturiol a’r setiau gwenithfaen ar draws y gerbytffordd. Cwblhawyd y gwelliannau drwy greu gofodau parcio a llwyfan newydd ar gyfer cael mynediad i fysiau a gosod cyrbiau, dalwyr planhigion, bolardiau a phalmentydd lletach o gerrig naturiol.

Gweithiodd y tîm yn agos gyda’r cleient a swyddog cyswllt â’r cyhoedd i nodi problemau posib gydag unrhyw ddyddiadau allweddol drwy gydgynllunio camau’r gwaith, trefnu cau ffyrdd neu ddargyfeirio traffig yn ôl yr angen a chydlynu mynediad ar gyfer cludo nwyddau i’r siopau.

Drwy gau ffyrdd dros nos, roedd modd cynnal gwaith o osod arwyneb newydd gyda chyn lleied o darfu â phosib, ac roedd hynny’n hanfodol er mwyn cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus. Yr allwedd i’r llwyddiant hwn oedd cyfathrebu da gyda’r Cleient, y cyhoedd a rhanddeiliaid.

Aethpwyd â chynnyrch concrit a godwyd i gyfleuster ailgylchu i ffwrdd o’r safle i gael eu gwasgu a’u graddio a chafodd is-haenau wedi’u hailgylchu eu hailddefnyddio.

Roedd ein tîm arbennig sydd wedi’u hyfforddi i’r safon uchaf yn gallu defnyddio eu profiad i leoli’r gwasanaethau oedd yno. Mae hyn yn un o’r heriau mwyaf wrth weithio yng nghanol trefi ble bydd cofnodion yn aml yn hen ac wedi dyddio.

MENTRAU CYMUNEDOL

Ymhlith y Buddion i’r Gymuned, roedd darparu deunyddiau ar gyfer adeiladu estyniad i’r neuadd ar gyfer y Côr Meibion.
Tirlunio: coed a llwyni – plannu gan blant/y gymuned.

Cyfrannu paledi i’r ysgol gael eu hailddefnyddio ar gyfer gweithgareddau amrywiol megis adeiladu gwestai trychfilod a dalwyr planhigion ynghyd â hadau blodau’r haul fel rhan o’u hymgyrch dysgu yn yr awyr agored a Diwrnod Gwenyn y Byd. Wedi i ni dorri coed ar brosiect arall, roedd modd i ni gyfrannu boncyffion i greu ardal eistedd ar gyfer amser darllen yn y gornel natur.

Arloesi gyda chodi: Datblygwyd a chynhyrchwyd cyfarpar bach i’w ddefnyddio â llaw i symud a gosod setiau gwenithfaen, sy’n broses anodd ac ailadroddus, a dileu problemau straen ailadroddus.

AGWEDDAU ALLWEDDOL Y PROSIECT:

  • Gwelliannau i Ganol y Dref
  • Cynnal Mynediad i’r Cyhoedd
  • Cyrbau a Llwybrau Cerdded
  • Ymgysylltu â’r Gymuned

EXPLORE MORE Infrastructure