TEITHIO LLESOL Y GAER

Darparu llwybr Teithio Llesol 1.4km mewn ardal o bwysigrwydd ecolegol, amgylcheddol ac archaeolegol

Cafodd Griffiths eu penodi gan Gyngor Dinas Casnewydd i ddarparu llwybr Teithio Llesol 1.4km yn ardal y Gaer yng Nghasnewydd, gyda lôn seiclo 3m o led, gosod System Ddraenio Drefol Gynaliadwy (SUDS), arwyddion traffig, marciau ffordd a goleuadau stryd.

Wedi’i gynllunio yn unol â chanllawiau dylunio Teithio Llesol Cymru, mae’r llwybr seiclo a rennir yn cysylltu Heol Basaleg yn y gogledd-orllewin â Wells Close yn ne-ddwyrain y safle. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith mewn Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur o’r enw Y Gaer, ac mae nifer o ffactorau Ecolegol, Amgylcheddol ac Archaeolegol.

Rhoddwyd mesurau arbennig ar waith yn y coetir hynafol hwn i ddiogelu’r coed ar y safle hwn a rhai cyfagos. Dilynwyd argymhellion er mwyn osgoi unrhyw risg o ddifrodi coed a gwreiddiau coed mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan weithgaredd datblygu.

Ar y tir sy’n ffinio â’r safle, mae eiddo preswyl a thir glas agored a ddefnyddir yn helaeth gan gerddwyr ac ar gyfer gweithgareddau hamdden, felly roedd angen llwybrau cerdded diogel amlwg a mesurau i liniaru sŵn ac unrhyw gyswllt â’r gwaith cyn cychwyn arni.

Bryngaer Oes Haearn ydy’r Gaer, mewn safle delfrydol yn edrych dros Aber Afon Hafren ac yn cael ei amddiffyn ar un ochr gan Afon Ebwy.

Ar un adeg, roedd y fryngaer yn rhan o’r tiroedd oedd dan berchnogaeth teulu Morgan o Dredegar ac yn yr 17eg ganrif, cafodd ei hymgorffori yn nhirwedd ‘Y Parc’ a amgylchynai stad y teulu yn Nhŷ Tredegar.

Mae’r tir wedi’i lunio fel ardal agored y gaer ar ochr bryn gyda rhedyn a grwpiau o goed. Mae’r llethrau rhedynog yn darparu microhinsawdd sy’n cynnal nifer o ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, gan gynnwys madfallod a nadroedd defaid.

Ceir llecynnau bychain o rostir gyda grug a llus ble gellir gweld planhigion sy’n ffynnu mewn tir asidaidd megis briwydd wen a rhwyddlwyn meddygol. Mae glaswelltir asidaidd a rhostir yn brin yng Nghasnewydd, felly mae’r cynefinoedd hyn yn arbennig o bwysig. Defnyddir y Gaer hefyd fel cynefin fforio gan lawer o ystlumod ac mae dros 300 o rywogaethau gwyfynod wedi’u cofnodi. Mae mamaliaid fel chwistlod, llygod y gwair, gwahaddod a chadnoid yn gyffredin, a gellir clywed adar fel yr ehedydd.

Twmpathau morgrug melyn y maes ydy’r twmpathau yn y glaswelltir agored. Mae’r rhain yn arwydd nad yw’r safle wedi cael ei reoli mewn unrhyw ffordd sydd wedi ymyrryd ag adeiledd y pridd, felly mae’n laswelltir hynafol o ddiddordeb arbennig.

EXPLORE MORE Infrastructure