GWELLIANNAU CANOL TREF TREFYNWY

Cwblhaodd Griffiths y gwaith o ailadeiladu llwybrau cerdded a cherbytffyrdd yn Stryd Mynwy, Sgwâr Agincourt, Stryd Agincourt a Stryd y Prior yn nhref hanesyddol Trefynwy yn Sir Fynwy yn llwyddiannus.

Er mwyn cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus, roedd rhaid osgoi tarfu ar fywyd y dref. Yr allwedd i’r llwyddiant hwn oedd cyfathrebu da gyda’r Cleient, y cyhoedd a rhanddeiliaid. Nid yw’r ardal wedi’i neilltuo i gerddwyr yn unig, felly roedd rheoli traffig a cherddwyr yn dda yn hollbwysig, gyda ffordd benodol wedi’i neilltuo i beiriannau gludo deunyddiau i mewn ac allan o’r safle, mesurau ar waith i leihau sŵn a llwch yn ystod cyfnodau o gloddio wrth gynnal gwaith y tu allan i siopau.

Gweithiodd y tîm yn agos gyda’r cleient a swyddog cyswllt â’r cyhoedd i nodi problemau posib gydag unrhyw ddyddiadau allweddol drwy gydgynllunio camau’r gwaith, trefnu cau ffyrdd neu ddargyfeirio traffig yn ôl yr angen a chydlynu mynediad ar gyfer cludo nwyddau i’r siopau.

Trwy weithio yn y nos, roedd modd cynnal gwaith a oedd yn effeithio ar ddrysau siopau, ardaloedd mynediad neu gau ffyrdd gyda chyn lleied o darfu â phosib.
Aethpwyd â chynnyrch concrit a godwyd i gyfleuster ailgylchu i ffwrdd o’r safle i gael eu gwasgu a’u graddio a chafodd is-haenau wedi’u hailgylchu eu hailddefnyddio.

Mae system ddraenio â slotiau cynnil yn cael llawer llai o effaith weledol na chwterydd traddodiadol a systemau grid, ac felly hefyd y palmentydd newydd a adeiladwyd a’r celfi stryd o gerrig naturiol a osodwyd. Roedd ein tîm arbennig sydd wedi’u hyfforddi i’r safon uchaf yn gallu defnyddio eu profiad i leoli’r gwasanaethau oedd yno. Mae hyn yn un o’r heriau mwyaf wrth weithio yng nghanol trefi ble bydd cofnodion yn aml yn hen ac wedi dyddio.

Cyfyngwyd yr ardaloedd gwaith i 50m o hyd a’u cadw’n ddiogel gyda ffensys gwaith addas. Cafodd mynediad ar gyfer pobl â nam ar eu golwg ei gynnal a’i wella hefyd drwy friffio’r gweithlu ynglŷn â’u galluogi i ddarparu cymorth yn ôl yr angen.

AGWEDDAU ALLWEDDOL Y PROSIECT:

  • Gwelliannau i Ganol y Dref
  • Cynnal Mynediad i’r Cyhoedd
  • Cyrbau a Llwybrau Cerdded
  • Ymgysylltu â’r Gymuned

EXPLORE MORE Infrastructure