HAFN TWNNEL PENFRO

Wedi i waith clirio llystyfiant ddatgelu mai deyerydd moch daear oedd achos sylfaenol cwympiadau creigiau mewn hafn ar reilffordd yng ngorllewin Cymru, rhoddodd Network Rail Asset Management (Llwybr Cymru) Griffiths ar waith i ddatblygu datrysiad ar gyfer cadw moch daear draw a gosod rhwyd ar y graig wedyn er mwyn diogelu wynebau’r hafn.

Long reach excavators on Pembroke Tunnel Aed â pheiriannau cloddio sy’n estyn ymhell a chraeniau Griffiths i’r safle i gynorthwyo gyda chyflawni’r gwaith.
IRATA qualified operatives and a skid-mounted drill. Gweithredwyr â chymwysterau IRATA a dril wedi’i osod ar ffrâm.
The Griffiths delivery team pictured within the cutting approach to Pembroke Tunnel. Llun o dîm gwaith Griffiths yn yr hafn ger ceg twnnel Penfro.
Alun Griffiths Pembroke Tunnel Rock Cutting Hafn Twnnel Penfro

Lleolir Twnnel Gogledd Penfro tua 1.25km o orsaf Penfro ar lein dwyffordd PEM rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf yn Ne-orllewin Cymru.

Yn 2017, rhoddodd Network Rail Griffiths ar waith i gynnal gwaith clirio llystyfiant helaeth yn yr hafnau sy’n arwain at Dwnnel Gogledd Penfro ar y ffordd I Fyny ac I Lawr. Yn ystod y gwaith o glirio llystyfiant, canfuwyd nifer o ddeyerydd moch daear hirsefydlog, a phrofwyd mai dyma oedd achos sylfaenol nifer o gwympiadau creigiau ar hyd 380m o ochrau serth yr hafn.

Wedi i’r gwaith o glirio llystyfiant gael ei gwblhau, cydweithiodd Griffiths â Network Rail Design Delivery (NRDD), tîm RAM Network Rail, Cyfoeth Naturiol Cymru a’n hymgynghorwyr amgylcheddol cymeradwy i ddatblygu cynllun gwaith parhaol ar gyfer y gwaith adfer a oedd yn cynnwys cadw’r moch daear a ganfuwyd yn ystod y gwaith clirio draw.

Cynlluniwyd y gwaith parhaol i gael ei gyflawni yn ystod 19 diwrnod pan fyddai’r rheilffordd wedi’i chau yn unol â chynllun ymlaen llaw ym mis Ionawr 2020 er mwyn lleihau misoedd o amharu ar randdeiliaid lleol a chymdogion ger y lein.

Roedd dyluniad y gwaith parhaol yn cynnwys 4500m2 o rwydi Tecco G65/3 Geobrugg yn cael eu dal yn eu lle gan 1650 o folltiau creigiau dur â’u hyd yn amrywio hyd at 4.5m.

Cyn i’r prif waith ddechrau, trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau cysylltu â’r cyhoedd gan dîm cyfathrebu Network Rail er mwyn rhoi gwybod i randdeiliaid a chymdogion ger y lein am y cyfnod cau 19 diwrnod.

Bu aelodau staff Griffiths a fyddai’n gyfrifol am y cam cyflawni yn cynorthwyo Network Rail yn y digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau bod cymdogion y lein a rhanddeiliaid yn cael gwybodaeth fanwl ac yn dod i wybod am y gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer y cyfnod cau oedd i ddod.

Ym mis Medi 2019, symudodd Griffiths i’r safle i ddechrau ar y gwaith galluogi sylweddol cyn y cyfnod cau 19-diwrnod a oedd wedi’i gynllunio.

Yn ystod y cyfnod rhwng cwblhau’r gwaith o glirio’r llystyfiant a dechrau’r gwaith galluogi, roedd y llystyfiant wedi aildyfu. Cafodd y llystyfiant ei glirio gan ein tîm ein hunain o weithwyr IRATA a gweithredwyr wedi’u hyfforddi i safonau NPTC.

Roedd nifer o ddeyerydd moch daear ychwanegol wedi’u sefydlu yn ogystal â’r rhai oedd yn cael eu defnyddio eisoes. Gweithiodd yr ymgynghorwyr amgylcheddol o’n dewis yn helaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i osod rhwydi a gatiau moch daear ar yr holl ddeyerydd ac i fonitro’r hafn gyfan cyn i’r gwaith parhaol ddechrau, gan atal y moch daear rhag ailymsefydlu.

Er mwyn lleihau’r sŵn a grëwyd yn ystod y cyfnod cau ac amharu cyn lleied â phosib ar gymdogion y lein, cafodd yr holl waith drilio ei gyflawni rhwng 07:00 a 22:00. Llwyddodd dros 70 o weithredwyr, gan gynnwys 50 o dechnegwyr IRATA i osod 1650 o folltiau craig gan ddefnyddio ein dau beiriant cloddio RRV sy’n estyn ymhell ein hunain, craen RRV a dau beiriant cloddio 36t sy’n estyn ymhell, pob un ohonynt â driliau creigiau wedi’u gosod. Gosododd trydedd shifft o 30 o weithredwyr a weithiai rhwng 22:00 a 07:00 y 4500m2 o rwydi a’r cydrannau cysylltiedig.

Mae fflyd o 1,500 o’n peiriannau peirianneg sifil a rheilffyrdd ein hunain yn eiddo i Griffiths. Mae gan y cwmni drwydded Cynllun Gweithredu Peiriannau ar y Traciau (POS) sy’n ein galluogi i ddefnyddio’n haelodau staff ein hunain i gynnal, rheoli a chyflawni gwaith gan ddefnyddio ein cyfarpar Peiriannau Ar y Trac (OTP) ein hunain. Mae bod â thrwydded POS yn galluogi Griffiths i ddarparu cynnig mwy cynhwysfawr ein hunain a mwy o reolaeth dros brosiectau, gan roi mwy o sicrwydd i’n cleientiaid. Mae ein model o ddarparu ein hunain yn golygu y gallwn ni fod ar waith yn gyflym ac yn effeithlon er mwyn bodloni amserlenni cyfyngedig.

Drwy weithio mewn modd cydweithredol, cwblhawyd yr holl waith ar amser, o fewn y gyllideb ac ynghynt na’r rhaglen.

Yn ogystal â bod yn aelod o IRATA, mae Alun Griffiths (Construction) Ltd hefyd yn aelod o Gymdeithas Ddrilio Prydain, Sefydliad y Peirianwyr Sifil a’r Gofrestr o Weithwyr Peirianneg Tir Proffesiynol.

EXPLORE MORE Geotechnical