Yn 260m, mae Platfform 4 estynedig yng Ngorsaf Abertawe yn elfen allweddol o gynllun adnewyddu £7.5m yr orsaf a fydd yn moderneiddio’r cyfleusterau, yn gwella’r profiad i deithwyr ac yn caniatáu i drenau Intercity Express newydd GWR gyrraedd a gadael. Cafodd y prosiect technegol heriol ei gyflawni gan Griffiths.
Roedd y gwaith i estyn Platfform 4 wedi’i gymhlethu gan dopograffi penodol y safle, gyda’r platfform esgynedig yn gorwedd tua 3m uwchlaw lefel ffordd wasanaeth, gyda’r ffordd honno 5m uwchlaw priffordd gyhoeddus ac wedi’i chynnal ar wal gerrig a oedd yn gynhenid ansefydlog.
Er mwyn gwneud lle i’r adeiledd newydd, roedd angen dymchwel y platfform esgynedig gwreiddiol. Symudodd Griffiths gyfanswm o 2,400 tunnell o wastraff dymchwel o’r safle. Cafodd y gwastraff dymchwel ei wahanu ar y safle i ddechrau, gyda dur yn cael ei gludo i ganolfannau ailgylchu yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr a choncrit yn mynd i ganolfan ailgylchu Alun Griffiths Ltd yn Llanelli.
Er mwyn delio â’r risgiau yn ystod y gwaith o ddymchwel y platfform blaenorol, penododd Griffiths gontractwr dymchwel arbenigol i gynorthwyo gyda datblygu’r fethodoleg ar gyfer y gweithgaredd risg-uchel hwn. Nodwyd mai’r dull mwyaf addas ar gyfer dymchwel y parapet concrit a’r slabiau concrit oedd peiriannau Brokk robotaidd sy’n cael eu rheoli o bell. Roedd defnyddio’r rhain yn golygu nad oedd unrhyw bobl wedi’u lleoli yn agos at unrhyw ymyl arweiniol yn ystod y gwaith dymchwel.
Dymchwel trwy reolaeth o bell / robotig ydy’r ateb delfrydol ar gyfer gwaith mewn mannau cyfyng neu beryglus heb allyrru mygdarthau niweidiol. Mae dymchwel robotig yn effeithlon, yn gost-effeithiol ac yn bwerus. Mae’n cael gwared ar unrhyw broblemau gyda dirgryniad llaw-braich a ‘bysedd gwyn’ sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â gwaith â llaw mewn mannau cyfyng.
Gan weithio y tu ôl i fyrddau terfyn yn ystod oriau gwaith arferol, llwyddodd y defnydd o beiriannau Brokk yng Ngorsaf Abertawe i sicrhau y gallai gwaith dymchwel fynd rhagddo’n ddiogel cyn meddiannu rheilffordd Platfform 4 heb amharu o gwbl ar weithrediad arferol y platfform am tua tair wythnos.
Ar ôl y gwaith dymchwel, yn y cam adeiladu cyntaf, gyrrwyd 71 o seilbyst concrit i mewn i’r ddaear i ffurfio sylfeini’r platfform newydd. Ar yr un pryd, dechreuwyd ar y gwaith o ailadeiladu’r ddwy wal sy’n rhedeg o dan y platfform.
Gan ddefnyddio 42 tunnell o ddur, gosodwyd ffrâm newydd yn ei lle a fyddai’n cynnal 179 o slabiau concrit i ffurfio arwyneb y platfform newydd. Gosodwyd seilbyst sylfaen er mwyn lleihau’r llwyth ar y wal gynnal a’r wal wyneb uchaf drwy alluogi llwythi fertigol i gael eu trosglwyddo drwy ffrâm borthol ddur i mewn i’r seilbyst.
Gwnaeth Griffiths ddefnydd arloesol o unedau modiwlar ar gyfer y platfform newydd gan ddefnyddio llenwadau polystyren ac elfennau wedi’u castio’n barod ac â fframiau dur er mwyn lleihau’r gwaith ar y safle. Golygai hynny bod llai o deithiau, gan arbed ar symudiadau lorïau a deunyddiau eraill megis concrit. Roedd defnyddio elfennau parod yn golygu hefyd nad oedd y gwaith cynhyrchu’n ddibynnol ar y tywydd, a bod yr amser adeiladu a chostau’r prosiect yn cael eu lleihau drwy arbed amser goruchwylio diogelwch a gwaith adeiladu yn ogystal â’r amseroedd gweithredu a logisteg y safle adeiladu.
Yn olaf, gosodwyd dwy gysgodfa aros, goleuadau a system PA.

Ar gyfer Platfform 4 Gorsaf Abertawe, llwyddodd y fethodoleg a gynlluniwyd i sicrhau cyn lleied o weithgaredd ‘ar neu ger y lein’ â phosib a chymaint â phosib o weithgaredd amgylchedd y stryd fawr, sy’n fwy diogel, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy effeithlon. Roedd cymhareb gwaith ‘ar neu ger y lein’ o’i gymharu ag amgylchedd y stryd fawr tua 15:85 ar y cynllun, gan leihau’r costau tua 40% a gwella’r rhaglen 50-65%.
Dilynwyd egwyddorion ‘Diogel trwy Gynllunio’ er mwyn sicrhau bod adeiladwyedd a Gwaith Dros Dro / dilyniannau yn dylanwadu ar Gynllunio’r Gwaith Parhaol. Fel rhan o Gynllunio’r Gwaith Parhaol, cafodd asesiad o’r asedau presennol ei gynnwys er mwyn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r modd y byddai’r cynllun yn cael ei weithredu.
Defnyddiodd Tîm Rheoli’r Prosiect yr ‘Erfyn Carbon Rheilffyrdd’ i gynllunio’r strategaeth gyflawni ar gyfer gwaith Platfform 4 Gorsaf Abertawe.
Yn 2020, cofrestrodd Griffiths waith Platfform 4 Gorsaf Reilffordd Abertawe gyda’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol. Ym mis Mawrth 2021, cafwyd sgôr o 41/50, gyda Griffiths yn cyflawni dynodiad ‘rhagorol’ mewn pedwar categori ac ‘eithriadol’ ar gyfer ‘Gofal am Ddiogelwch’. Dywedodd Sylwedydd y Cynllun adeiladwyr Ystyriol, Stuart James “Ar y cyfan, maer safle’n cyflawni safon ragorol, ac mae hynny i’w gymeradwyo o ystyried yr heriau a osodwyd gan yr argyfwng cenedlaethol a byd-eang presennol.”