Gwaith hoelio pridd, adfer llethr ac atal erydu ar Afon Ceiriog
Mae’r safle wedi’i leoli ar hyd glan Afon Ceiriog ger Y Waun wrth ochr y B4500. Dyma’r briff ffordd i Ddyffryn Ceiriog ac mae’n ffordd ddargyfeirio ar gyfer rhan o’r A5. Mae’n llwybr trafnidiaeth arwyddocaol felly, ac yn hynod bwysig i’r gymuned leol.
Mae Afon Ceiriog yn brif afon ac mae’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Dyffryn Dyfrdwy ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae’n sensitif yn ecolegol ac yn cynnal nifer o rywogaethau a warchodir ac felly, er bod y gwaith yn bwysig, roedd angen dylunio a chynnal y gwaith adeiladu mewn modd oedd yn amgylcheddol gyfeillgar.
Cynllun dylunio ac adeiladu oedd hwn, a aeth i dendr ar sail cynllun canllaw a baratowyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW). O ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), daeth yn amlwg na fyddai’r cynllun canllaw yn dderbyniol iddyn nhw, oherwydd mai datrysiad peirianneg galed a gynigiwyd, sef waliau o gewyll cerrig.
Llwyddodd Griffiths i weithio gyda’n dylunwyr, Jubb Consultants i gynllunio datrysiad mwy meddal gyda hoelion pridd, rhwyllwaith a cherrig riprap, a fyddai’n cael eu gorchuddio â phlanhigion ymhen amser, gan leihau’r effaith weledol ac amgylcheddol – cafodd hyn ei dderbyn gan CNC. Roedd y datrysiad hwn hefyd yn bodloni anghenion CBSW i sefydlogi’r llethr a’r ffordd uwchben.
Ar gyfer y gwaith yn yr afon, roedd angen system argae a phwmp er mwyn darparu ardal weithio sych. Defnyddiwyd system Portadam gyda choesau a llenni modiwlaidd oherwydd ei bod yn ysgafn a bod yr amser gosod yn gyflym. Roedd hyn yn rhoi hyder i CNC mai ychydig o amharu fyddai ar wely’r afon a phetai llifogydd yn cael eu rhagweld, gellid symud yr argae ymaith yn gyflym. Cafodd y gwaith ei wneud y tu allan i dymor silio pysgod a defnyddiwyd technegau achub pysgod wrth osod yr argae.
Cwblhawyd arolygon ecolegol, a oedd yn cynnwys arolygu’r afon a’r ardaloedd cyfagos am gryn bellter y tu hwnt i safle’r gwaith, ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a chydsyniad SoDdGA fel rhan o broses cymeradwyo’r gwaith.
Roedd y gwaith yn cynnwys symud deunydd o’r llethr fel yr oedd a’i ailraddio hyd at ddeunyddiau sad. Gwnaed hynny gyda pheiriant cloddio 13T o lefel y ffordd. Gosodwyr y peiriant cloddio ar fatiau cors er mwyn gwasgaru pwysau’r peiriant ac osgoi ansefydlogi’r llethr ymhellach. Cymerwyd gofal o amgylch y system atal cerbydau a oedd yn ei lle ynghyd â gwasanaethau BT a dŵr. Roedd y dŵr a dynnwyd o safle’r cloddio gyda phwmp yn mynd trwy system gwaredu silt cyn cael ei ddychwelyd i’r afon islaw safle’r gwaith.
Cafodd y llethr ei sefydlogi gyda 54 o hoelion pridd â diamedr o 38mm, oedd hyd at 9m o hyd, ac a osodwyd mewn tyllau turio 76mm. Aeth y gwaith yn ei flaen gyda pheiriant cloddio 13T sy’n estyn ymhell, gan ganiatáu i’r hoelion gael eu gosod heb i lwyth y peiriant cloddio fod yn uniongyrchol uwchben rhannau mwyaf bregus y llethr cyn iddynt gael eu sefydlogi. Cafodd yr holl waith growtio ar gyfer yr hoelion pridd ei gwblhau o fewn system byndiau wedi’i theilwra er mwyn atal growt rhag gollwng i’r afon a chreu llygredd posib. Roedd gan Griffiths gynllun argyfwng yn ei le ar gyfer y gwaith, gyda rhwystr llygredd wedi’i grogi dros yr afon yn barodi gael ei ostwng petai angen ac roeddem wedi ymgynghori â physgodfeydd lleol yn is i lawr yr afon fel bod modd cau llifddorau mewnlifoedd petai argyfwng.
Cafodd matiau rheoli erydu oedd yn cynnwys matrics 3D a matiau rhisgl cnau coco eu pinio ar y llethr cyn i rwyllwaith dur ucheldynnol a elwir yn TECCO gael ei osod. Cwblhawyd y system gyda rhaffau gwifrau ar yr ymylon a’i thynhau i 5 tunnell er mwyn darparu rhwystr gweithredol ar yr wyneb.
Wedi i’r llethr gael ei sefydlogi, defnyddiodd Griffiths beiriant cloddio 21T sy’n estyn ymhell nad yw ei gynffon yn ymwthio o gwbl wrth droi gan WM Plant Hire, ynghyd ag atodyn cydio. Golygai hyn bod modd defnyddio peiriant cloddio mwy gyda mwy o gapasiti codi, hyd yn oed wrth weithio o fewn lon gul iawn. Defnyddiwyd y peiriant hwn i osod cerrig riprap a oedd yn pwyso hyd at 2T yr un. Cafodd y cerrig eu gosod ar wely’r afon a’u trefnu fel eu bod yn llenwi’r gwagle a grëwyd o ganlyniad i’r tirlithriad gwreiddiol, gan alluogi’r grib i gael ei hailosod a deunydd i gael ei osod i bontio rhwng y datrysiad hoelio pridd a gwaith peirianneg caled hanesyddol y cewyll cerrig gerllaw. Cwblhawyd yr holl waith yn yr afon erbyn embargo tymor silio’r pysgod heb unrhyw ddigwyddiadau llygru.
Roedd y gwaith a wnaed ar hyd y grib yn cynnwys gosod draeniau newydd ar gyfer y briffordd a oedd yn cwympo i gwlfert gerllaw, gosod system atal cerbydau mewn stribed o goncrit sylfaen â socedi er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw rhwydd. Gosodwyd ymyl i’r ffordd fyddai’n cyfeirio dŵr oddi ar y briffordd ac yn atal erydu gorlif ar y llethr, torrwyd canghennau yn ôl yr angen ar goed uwchlaw a gosodwyd wyneb newydd ar y B4500.