Fframwaith SWTRA sy’n cwmpasu ardal o Gyffordd 32 yr M4 i Ail Groesfan Hafren gan gynnwys yr M48, A48(M), A449, A4042, A466 a rhannau o’r A40 a’r A465.
Mae Griffiths yn Gontractwyr Fframwaith cyfredol ar gyfer Rhanbarth Dwyreiniol Fframwaith SWTRA.
Mae’r gwaith sy’n cael ei gyflawni yn y rhanbarth yn cynnwys y dyletswyddau llawn sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw Priffyrdd ac Adeileddau, adnewyddu ac adeiladu o’r newydd, sy’n adlewyrchu holl ofynion Cytundeb Fframwaith newydd arfaethedig SWTRA.
Yn ystod cyfnod y contract hwn, rydym wedi cyflawni’r gweithiau hyn gan ddefnyddio ffurfiau contract Opsiwn D yn bennaf, ond rydym wedi cynnwys Opsiynau A, B ac E hefyd ar gontractau â’u gwerth yn amrywio o £1k i £5m.
Mae ein profiad o gontractio yn cynnwys tendro, datblygu cynlluniau, cynllunio, adeiladu a chynnal a chadw mewn amgylchedd cwbl gydweithredol, gan gwmpasu’r trefniadau partneru yn y contractau. Yn ogystal, rydym yn cydweithio gyda Chontractwyr eraill i gynnal gwaith ar un o’r rhwydweithiau prysuraf yn y Deyrnas Unedig.
Ers adnewyddu’r contract yn 2010, rydym wedi llwyddo i gwblhau dros 300 o brosiectau â chyfanswm eu gwerth dros £54m.
Dros ddau gyfnod Fframwaith SWTRA, rydym wedi cynnal cyfanswm o fwy na 400 o brosiectau.
Yn y prosiect hwn, roedd lôn benodol ar gyfer troi i’r chwith yn cael ei hadeiladu rhwng y ffordd ymadael tua’r gorllewin a cherbytffordd yr A4232 tua’r de. Hefyd, roedd y gerbytffordd newydd yn cael ei gosod yn lle’r gerbytffordd goncrit ar y ffordd ymadael ger y gyffordd i wella capasiti’r gyffordd a lleihau tagfeydd.
Cafodd y lôn benodol newydd ei hadeiladu ar safle maes glas wrth ochr Traffordd yr M4 a golygai fod angen adeiladu arglawdd cyfnerthedig 10m o uchder.
Gweithiodd Griffiths gyda SWTRA trwy’r fframwaith i ganfod cyfleoedd ar gyfer peirianneg â gwerth da. Roedd hynny’n cynnwys cynllunio aliniad y lôn benodol mewn modd oedd yn osgoi’r angen i symud peilon trydan foltedd uchel, gan ddarparu arbedion cost ac amser sylweddol ar gyfer y prosiect.
Roedd y gwaith yn cynnwys ailgyflunio ac ailosod ffyrdd ymadael ac ymuno’r M4; lledu cerbytffyrdd yr A449 a’r system gylchredol i 4 lôn, gantrïau arwyddion newydd, cloddio ac adeiladu ffordd 2-lôn newydd trwy’r ynys ganolog, gan gysylltu’r A449 (tua’r de) â ffordd ymuno (tua’r gorllewin) yr M4, cloddio ac adeiladu lonydd ymadael penodol rhwng ffordd ymadael (tua’r gorllewin) yr M4 a Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 a rhwng ffordd ymadael (tua’r dwyrain) yr M4 a’r A449, lledu’r A449 (tua’r de) wrth iddi ddynesu at y gyffordd a lledu Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48 i 3 lôn.
Enillodd y cynllun Wobr Highways Magazine ar gyfer Gwella Llif Traffig 2010 a Chanmoliaeth Uchel yng Ngwobr Amgylcheddol CIHT 2010.
Er mwyn adeiladu’r ffordd gyswllt benodol, cafodd ffordd ymadael tua’r gorllewin Cyffordd 32 yr M4 ei lledu. Adeiladwyd lôn ychwanegol a gosodwyd wyneb newydd ar 160m gyda chwrs arwynebol tenau.
Wedyn cafodd cerbytffordd sengl ddwy lôn ei hadeiladu i gysylltu cerbytffordd gylchredol Cyffordd 32 â’r A470, gyda chyffordd newydd â signalau ar yr A470.
Cafodd y cyfnod adeiladu 32-wythnos ei gwblhau 8 wythnos yn gynnar er mwyn osgoi cael unrhyw effaith ar Uwchgynhadledd NATO a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.
Roedd y Cleient yn ystyried bod y prosiect yn un hynod lwyddiannus ac yn 2012, enillodd Wobr Ragoriaeth Highways Magazine ar gyfer Lleihau Tagfeydd.