PARTNERIAETH PRIFFYRDD ABERTAWE

Mae Partneriaeth Priffyrdd Abertawe (SHP) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas a Sir Abertawe a chonsortiwm sy’n cynnwys Alun Griffiths (Contractors) Ltd. a Hanson Quarry Products Europe Ltd.

Cafodd y Bartneriaeth 4-blynedd wreiddiol ei ffurfio yn 2008 a chafodd ei hadnewyddu yn 2021 am ddwy flynedd bellach, gydag opsiwn ar gyfer dwy arall eto.

Mae’r Bartneriaeth yn darparu gwell effeithlonrwydd a chynllunio mwy effeithiol ar gyfer gwelliannau priffyrdd ledled y sir drwy weithio’n fwy cyfannol fel tîm.

Griffiths sy’n cynnal y gwaith peirianneg sifil, HANSON sy’n gwneud y gwaith o osod arwyneb newydd ac mae Sefydliad Llafur Uniongyrchol y Cyngor yn cyflawni gwaith sydd wedi’i gynllunio ar gynnal a chadw a mân welliannau.

Mae trefniant y bartneriaeth yn cyfuno adnoddau ac arbenigedd er mwyn gweithredu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol a rhaglenni gwaith Dinas a Sir Abertawe drwy ddarparu gwell gwasanaeth ar gyfer Gweithiau Cynnal a Chadw Arferol, Cynnal a Chadw Adeiledd Priffyrdd a Gwelliannau.

Mae SHP yn cyfuno’r timau i ffurfio a gweithredu fel un endid, ac mae hynny yn ei dro yn creu trefniadau gweithio llai gwrthwynebus ac yn darparu canolbwynt a brwdfrydedd ar gyfer datblygu’r gweithlu ar y cyd.

Ers 2008, mae Griffiths wedi cynnal tua oddeutu 120 o brosiectau fel rhan o SHP. Mae’r prosiectau a gynhaliwyd yn amrywio o ran eu maint a’u gwerth o fân atgyweiriadau gwerth tua £1k i gerbytffyrdd i adeiladu cerbytffordd newydd gwerth dros £1.8m.

Fel rhan o’r Bartneriaeth, mae Griffiths hefyd wedi sefydlu cwmni ailgylchu, United Recycled Aggregates (URA) gyda’r nod o ddarparu arbedion ariannol a lleihau effeithiau amgylcheddol. Mae gan URA y gallu i ailgylchu asffalt sydd wedi’i blaenio fel y gellir ei ddefnyddio wedyn ar gyfer cyrsiau clymu cerbytffyrdd, cyrsiau arwyneb ar lwybrau cerdded/seiclo ac ar gyfer atgyweirio ceudyllau a gwaith patsio.

EXPLORE MORE Infrastructure