TWNNEL BLAENAU FFESTINIOG

System amddiffyn rhag cwympiadau creigiau wedi’i gosod yn y twnnel rheilffordd heb leinin hiraf yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r safle wedi’i leoli ar hyd rheilffordd Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog (LJT1), ac yn benodol o fewn Twnnel Blaenau Ffestiniog sy’n ddwy filltir o hyd. Mae’r twnnel wedi’i dorri trwy’r creigwely llechi a dyma’r twnnel heb leinin hiraf yn y Deyrnas Unedig hyd heddiw, wedi iddo fod y twnnel heb leinin hiraf yn Ewrop am gyfnod. Oherwydd bod y twnnel heb leinin a’i oed, mae cwympiadau creigiau’n gallu digwydd yn rheolaidd, gan effeithio ar ddibynadwyedd a pherfformiad diogel y rheilffordd.

Roedd y safle gwaith wedi’i leoli tua chanol y twnnel, dros 2 filltir o’r fynedfa agosaf i gerddwyr a 4 milltir o’r fynedfa agosaf i beiriannau.

Roedd y prosiect yn golygu gosod 600 o folltiau craig dur gwrthstaen 2.5 m o hyd a 1500m2 o rwyd cwympiadau creigiau ucheldynnol o ddur gwrthstaen. Roedd y rhaglen waith wedi’i chrynhoi o gwmpas cyfnod cau 21-diwrnod (y rheilffordd ar gau’n gyfan gwbl), gydag wythnos y naill ochr a’r llall i hynny ar gyfer sefydlu’r safle a’i glirio. Yn ystod y cyfnod cau, roedd y safle ar waith am 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gosod bolltiau creigiau yn nho’r twnnel gyda pharthau eithrio wedi’u marcio.
Drilio bolltiau creigiau gan ddefnyddio cerbyd ffyrdd-rheilffyrdd (RRV) gyda dril hydrolig wedi’i osod arno.

System amddiffyn rhag cwympiadau creigiau wedi’i gosod yn y twnnel rheilffordd heb leinin hiraf yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r safle wedi’i leoli ar hyd rheilffordd Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog (LJT1), ac yn benodol o fewn Twnnel Blaenau Ffestiniog sy’n ddwy filltir o hyd. Mae’r twnnel wedi’i dorri trwy’r creigwely llechi a dyma’r twnnel heb leinin hiraf yn y Deyrnas Unedig hyd heddiw, wedi iddo fod y twnnel heb leinin hiraf yn Ewrop am gyfnod. Oherwydd bod y twnnel heb leinin a’i oed, mae cwympiadau creigiau’n gallu digwydd yn rheolaidd, gan effeithio ar ddibynadwyedd a pherfformiad diogel y rheilffordd.

Roedd y safle gwaith wedi’i leoli tua chanol y twnnel, dros 2 filltir o’r fynedfa agosaf i gerddwyr a 4 milltir o’r fynedfa agosaf i beiriannau.

Roedd y prosiect yn golygu gosod 600 o folltiau craig dur gwrthstaen 2.5 m o hyd a 1500m2 o rwyd cwympiadau creigiau ucheldynnol o ddur gwrthstaen. Roedd y rhaglen waith wedi’i chrynhoi o gwmpas cyfnod cau 21-diwrnod (y rheilffordd ar gau’n gyfan gwbl), gydag wythnos y naill ochr a’r llall i hynny ar gyfer sefydlu’r safle a’i glirio. Yn ystod y cyfnod cau, roedd y safle ar waith am 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Yn ogystal â bod yn brosiect heriol o ran logisteg oherwydd hygyrchedd a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â gweithio o lein rheilffordd unigol, roedd angen ystyriaeth arbennig hefyd oherwydd natur amgylchedd gweithio’r twnnel a’r potensial y gallai gael effaith niweidiol ar y gweithlu.

Oherwydd natur gyfyng twnnel, roedd allyriadau peiriannau’n destun pryder. Er mwyn goresgyn hynny, defnyddiodd Griffiths danwydd allyriadau isel o’r enw Ecopar ar gyfer ein peiriannau, ac roedd hwnnw’n cynhyrchu llawer llai o garbon deuocsid ac ocsidau nitrogen. Yn ychwanegol at hynny, roedd dwy wyntyll fawr yn sicrhau cyflenwad o awyr iach bob amser. Cafwyd gwared ar unrhyw lwch posib a fyddai’n cael ei gynhyrchu wrth ddrilio drwy ddefnyddio unedau niwlio mewn-llinell. Roedd aer a gronynnau yn cael eu monitro’n barhaus trwy gydol y gwaith er mwyn gwirio bod yna amgylchedd gweithio diogel i’r gweithlu. Gosodwyd dwy gilometr o oleuadau trydan wedi’u pweru gan baneli solar yn y compownd trwy’r twnnel er mwyn darparu golau ar gyfer safle’r gwaith, ond hefyd rhag ofn y byddai angen i’r gweithwyr fynd allan o’r twnnel.

Cafodd bolltiau craig o ddur gwrthstaen eu drilio ar batrwm croesgam gyda bylchau o tua 1.50m. Roedd y rhan fwyaf o’r bolltiau yn fariau 25mm a osodwyd mewn tyllau â diamedr o 33mm, gyda bariau 30mm wedi’u gosod mewn tyllau â diamedr o 41mm yn cael eu defnyddio i ddelio â nodweddion penodol. Cafodd y bolltiau craig eu diogelu yn eu lle drwy ddefnyddio cyfuniad o growtiau resin a oedd yn caledu’n araf ac yn gyflym a oedd yn ein galluogi i osod bolltiau yn nho’r twnnel ar unwaith, gyda gafael ar y bar yn ddi-oed wedi tua 10 eiliad.

Gosod rhwyll ucheldynnol ar frig y twnnel o MEWPiau.
Rhwyll ucheldynnol a bolltiau craig wedi’u gosod ar frig y twnnel.

Mae daeareg y twnnel yn amrywio, ond mae’r rhan fwyaf yn graigwely llechen. Roedd y rhan o’r twnnel oedd yn cael ei drin wedi’i leoli mewn llain o lechen oedd wedi’u cofnodi fel ‘the bastard slates’ ar ddarluniau hanesyddol. Roedd y llechen yn y rhan hon yn arbennig o galed ac roedd yn adnabyddus am dreulio ebillion driliau o fewn ychydig gannoedd o filimetrau o ddrilio ac yn draddodiadol, byddai’n cymryd tua awr i ddrilio bollt dwy-fetr drwy ddulliau drilio traddodiadol â llaw / coes aer a oedd wedi’u defnyddio gan gontractwyr eraill a fu’n gweithio yn yr ardal hon o’r blaen.

Defnyddiodd Griffiths ei rigiau driliau hydrolig lleiaf wedi’u gosod ar gerbydau ffyrdd-rheilffyrdd gyda dau gylch troi a oedd yn galluogi i’r driliau gael eu troi 360 gradd ar ddau blân ac yn bwysicaf oll, a oedd yn ffitio yn y twnnel gan olygu nad oedd angen drilio â llaw na thechnegau araf dwys o ran llafur a fyddai’n defnyddio fframiau a sgaffaldau wedi’u codi â llaw ar gyfer drilio a symud o un lleoliad i’r nesaf. Roedd hyn yn golygu bod amseroedd drilio wedi lleihau i lai na 10 munud ac roedd yn rhoi mantais aruthrol wrth symud rhwng safleoedd drilio, gan mai munudau yn hytrach nag oriau yr oedd hyn yn ei gymryd.

Yn ogystal, cafodd Griffiths ebillion dril dur wedi’u teilwra wedi’u gwneud er mwyn cyfateb i hyd y twll gan olygu nad oedd angen cysylltu ebillion hanner ffordd trwy’r broses o ddrilio pob twll. Yn ogystal â dileu tasg a’r amser fyddai’n gysylltiedig â’r broses honno, ac yn bwysicach na hynny, roedd yn golygu y gallai’r driliwr sefyll gryn bellter o’r gweithgaredd drilio a gweithredu’r dril o bell, gan osgoi rhyngwyneb â pheiriannau mawr ac unrhyw falurion posib a allai gwympo o’r gwaith.

EXPLORE MORE Rail