Fframwaith Atgyweirio a Chynnal a Chadw Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff (Mawrth 2012 – Mawrth 2018)
Mae’r fframwaith hwn yn ymwneud yn bennaf ag atgyweirio a chynnal a chadw’r rhwydweithiau dŵr gwastraff yng Ngogledd Cymru, Gwent, De Powys a Swydd Henffordd, gan gynnwys cloddio ac atgyweirio prif garthffosydd. Mae elfennau brys i rai agweddau ar y gwaith sydd angen sylw ar unwaith, ac rydym yn darparu gwasanaeth galw allan mewn argyfwng (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos). Rydym hefyd yn cynnal gwaith atgyweirio Rheoli Asedau’r Rhwydwaith sydd wedi’i drefnu ar y rhwydweithiau dŵr gwastraff ledled Cymru.
Mae hwn yn fframwaith ar gyfer darparu’r holl waith peirianneg sifil cyffredinol i Ddŵr Cymru a’u Partneriaid Buddsoddi mewn Asedau yn nhri rhanbarth Cymru – y Gogledd, y De-Orllewin a’r De-Ddwyrain. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ac addasu gweithiau trin dŵr a dŵr gwastraff, tanciau, gorsafoedd pwmpio, piblinellau ac asedau eraill Dŵr Cymru.