Mae Griffiths yn falch o fod yn darparu’r gwaith dylunio ac adeiladu ar Bont Devon Place ar ran Cyngor Dinas Casnewydd, yn dilyn cyfnod llwyddiannus o ymwneud cynnar gan gontractwr. Mae’r adeiledd trawiadol wedi’i gynllunio i ddarparu llwybr teithio llesol cyfunol yn pontio dros Orsaf Drenau Casnewydd. Mae’r bont yn rhan annatod o strategaeth datblygu teithio llesol ehangach ar gyfer Casnewydd ac mae’n cysylltu Ffordd y Frenhines ger canol y ddinas â’r ardaloedd preswyl o amgylch Devon Place. Bydd y bont yn cymryd lle’r danffordd sy’n cysylltu’r ddwy ardal ar hyn o bryd ond sydd â mynediad trwy risiau yn unig ac sydd hefyd wedi bod yn safle ar gyfer gweithgaredd troseddol.
Yn ystod cyfnod y Nadolig, llwyddodd Griffiths a’n partneriaid strategol yn y gadwyn gyflenwi i osod prif lwyfannau’r bont a’r rhannau sy’n eu cynnal dros gyfnod y bu’r rheilffordd ar gau am 54 awr a ddechreuodd am hanner nos ar Noswyl Nadolig. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig yn y rhaglen adeiladu ac yn dilyn misoedd o waith paratoi gan Griffiths a’n cadwyn gyflenwi. Cafodd y gwaith gosod ei gwblhau mewn 24 awr ac ynghynt na’r rhaglen. Dywedodd Joanne Gosage o Gyngor Dinas Casnewydd:
Diolch yn fawr i chi am holl waith y tîm ar y prosiect hwn ac yn enwedig heddiw pan oedd y gwaith paratoi a’r amseru mor bwysig. Mae wedi eich amlygu chi a’ch contractwyr yn y goleuni gorau posib yn broffesiynol. Roedd yn hyfryd gweld y darnau’n cael eu codi i’w lle o’r diwedd ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn gwneud cynnydd gwych yn y Flwyddyn Newydd.
Roedd y gwaith gosod yn benllanw misoedd o gynllunio ac adeiladu, wedi i’r gwaith ar y sylfeini ddechrau ym mis Medi 2021. Mae’r Prosiect wedi gweld 9 o byst sylfaen yn cael eu gosod, Cyfarpar y Llinellau Uwchben yn cael eu haddasu a gweithfeydd dros dro sylweddol yn cael eu hadeiladu i gadw rhannau’r bont ar gyfer gwaith weldio a pheintio cyn eu osod ac i gynnal y craen 550 tunnell a ddefnyddiwyd i osod rhannau’r bont dros gyfnod y cau. Griffiths ydy’r Prif Ddylunydd a’r Prif Gontractwr ar y Prosiect i Gyngor Dinas Casnewydd, gyda’r rhanddeiliaid allweddol, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn helpu i hwyluso’r gwaith i’r Cyngor. Cafodd y bont ei chynllunio gan Cass Hayward a chafodd ei chynhyrchu a’i chodi gan y contractwr gwaith dur ProSteel Engineering – y ddau yn gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn Ne Cymru.
Mae gwaith adeiladu ar gyfer gweddill y bont yn parhau ac mae disgwyl i’r bont agor yn ddiweddarach eleni.