Mae carreg filltir allweddol wedi’i chyflawni ar Brosiect Pont Kepax – mae craeniau, ynghyd â rhannau dur mawr o’r bont a’r peilonau, wedi cyrraedd y safle.
Mae rhannau’r bont, sy’n pwyso hyd at 15 tunnell yr un, wedi bod yn cyrraedd ar gefn lorïau mawr dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r gwaith ar adeiledd y tir wedi’i gwblhau, ynghyd ag ardaloedd storio er mwyn gwneud rhagor o waith saernïo ar y rhannau dur, gyda mwy o graeniau i gyrraedd dros y misoedd nesaf i godi’r bont i’w lle.