Gorffen adnewyddu traphont y Bermo

Mae Griffiths yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cwblhau prosiect adnewyddu traphont y Bermo yn llwyddiannus.

Ym mis Gorffennaf, cyflenwyd rhannau o’r bont i iard Griffiths, lle cawsant eu rhoi at ei gilydd yn ofalus, ochr yn ochr â chreu cledrau dros dro ar gyfer eu profi.

Yn ystod yr ail gam, defnyddiodd Griffiths graen llusg 400 tunnell i symud dwy ran o’r bont yn ofalus ar gledrau’r rheilffordd. Cludwyd yr adrannau hyn i lawr y cledrau i’r hen bont gan ddefnyddio Unimog a threlars i wthio’r bont ar hyd y trac. Roedd y broses osod yn cynnwys gosod y bont newydd yn ofalus y tu mewn i’r hen bont. Wedyn, cafodd yr hen bont ei dymchwel yn strategol a’i chodi i lawr ar bontynau yn y môr, gan amseru hyn yn hynod fanwl i gyd-fynd â llanw uchel. Yna llithrwyd elfennau’r bont newydd ar strwythur yr hen bont.

Trosglwyddodd Griffiths y strwythur yn ôl i Network Rail ar 25 Tachwedd 2023, a bydd yn bwrw ymlaen â cham ola’r prosiect, gan gynnwys cael gwared ar waith a strwythurau dros dro.

Mae cwblhau gwaith adnewyddu traphont y Bermo yn llwyddiannus yn arwydd o ymroddiad Griffiths i ragoriaeth ym maes adnewyddu ac adfer seilwaith.

Explore our sectors