GRIFFITHS YN SICRHAU TYSTYSGRIF ISO 45001

Mae Griffiths wedi llwyddo i drosglwyddo ei system rheoli iechyd a diogelwch bresennol o OHSAS 18001 i ISO 45001 – y safon iechyd a diogelwch diweddaraf.

Cafodd ISO 45001 ei gynllunio i fod yn ysgogwr ac i atgoffa bod cefnogi a diogelu gweithle diogel ac iachus yn waith i bawb. Mae hynny’n cynnwys gweithredu er mwyn sicrhau bod popeth a wnawn yn parhau yn ddiogel ac yn iachus.

Mae’r safon newydd yn gosod 13 o ofynion penodol ar uwch reolwyr. Golyga hyn fod rhaid i iechyd a diogelwch gael eu hymgorffori trwy’r holl fusnes ac yn hynny o beth, nid yw’n dderbyniol bellach iddynt fod yn swyddogaeth ar wahân.

Dywedodd y Pennaeth Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd, Jason Moore:

Does dim byd pwysicach i ni na gofalu am ein pobl. Mae ISO 45001 yn darparu dull sy’n seiliedig ar brosesau o ymwneud a rheoli risg a bydd hynny’n ein helpu i ymgorffori ein diwylliant Diogelwch-yn-Gyntaf sy’n golygu bod ein gweithwyr yn cymryd rôl weithredol yn datblygu, gweithredu a gwella ein perfformiad iechyd a diogelwch.

Explore our sectors