Mae un o Brentisiaid Peirianneg Sifil Griffiths wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) De-Orllewin Lloegr. Mae James Morris, sy’n Beiriannydd Safle ym Maes Awyr Bryste ar hyn o bryd, yn ei ail flwyddyn ar gwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil yn Weston College.
Mae James wedi gwneud cynnydd cyflym ar y safle ac wedi datblygu o fod yn Beiriannydd Cynorthwyol i gymryd cyfrifoldeb llawn bellach am osod ar gyfer elfennau allweddol o’r gweithiau y mae Griffiths yn eu cyflawni i’r Maes Awyr.
Yn ogystal â chreu argraff ar y safle, mae James hefyd yn cyflawni rôl hollbwysig yn ein hymdrechion i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr Sifil. Mae wedi mynychu nifer o ysgolion lleol a digwyddiadau gyrfaoedd, gan siarad â disgyblion a rhieni am ein diwydiant a’i rôl a’i brofiadau yntau. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaid 2020, James oedd seren ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ei goleg a oedd yn ceisio tynnu sylw at fanteision y llwybr prentisiaethau o gymharu ag addysg bellach lawn-amser. Gallwch weld y fideo YMA.
Cafodd James ei enwebu ar gyfer y wobr gan ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Simon Dunn a’r Rheolwr Gweithiau ym Maes Awyr Bryste, Barry Miles. Dywedodd Simon:
Rydyn ni’n falch ofnadwy o James. Mae’n gwbl haeddiannol o’i le ar y rhestr fer ar gyfer gwobr o’r fath. Mae ei angerdd yn amlwg ac ers ymuno â Griffiths, mae wedi creu argraff ar ei holl gydweithwyr gyda’i waith caled a pha mor gyflym y mae’n dysgu sgiliau newydd. Mae’n ymroddedig hefyd i helpu pobl eraill i ddod i mewn i’r diwydiant, gan wneud hynny’n aml yn ei amser ei hun, sy’n ganmoladwy iawn. Er mai dim ond 18 oed yw James mae ei agwedd, ei foesgarwch a’i barch tuag at bobl eraill y tu hwnt i’w oedran. Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddibynnu ar James bob amser, ac mae’n esiampl berffaith i eraill fel prentis.
Rydyn ni wrth ein bodd bod James wedi cael ei enwebu – mae hynny’n arwydd pendant o’i allu a’i gyfraniad i’r diwydiant ag yntau mor ifanc. Mae ei gyfraniad ym Maes Awyr Bryste wedi cynnwys elfennau allweddol o seilwaith i wella profiad teithwyr ac i wella Maes Awyr Bryste fel y porth i Dde-Orllewin Lloegr. Ymhlith y rhain, mae’r Ganolfan Llogi Ceir newydd, gwelliannau Mynediad i Faes Parcio Silverzone a’r Parth Gollwng Teithwyr newydd gyferbyn â’r brif derfynfa. Mae James yn gymwys ar gyfer ochr yr awyr hefyd ac mae’n cynorthwyo gyda gweithiau yn yr amgylchedd ar ochr yr awyr.
Wedi iddo gwblhau ei gymhwyster BTEC Lefel 3 presennol, mae James yn gobeithio y bydd yn parhau i droedio’r llwybr tuag at gymhwyster proffesiynol drwy barhau i gyfuno ei waith a’i astudiaethau. Y cam nesaf ydy astudio ar lefel gradd ac mae ei fryd ar wneud cwrs HNC rhan-amser yn Weston College.