CYNLLUN TEITHIO LLESOL BROCASTLE WEDI’I DDYFARNU I GRIFFITHS

Bydd y llwybr, sy’n gyfochrog â’r A48, ac oddeutu 3km i’r de-ddwyrain o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn cysylltu’r safle 116 erw yn Brocastle â chylchfan Tredŵr sydd 2km i’r gogledd orllewin. Mae’r gwaith yn cynnwys llwybr beiciau 2km o hyd, gosod cyrbau a wyneb y llwybr, croesfannau ffordd newydd â signalau, signalau traffig newydd yn lle’r rhai presennol a goleuadau stryd.

‘Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r partneriaid lleol, Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth gyflawni’r cynllun’, meddai Rheolwr y Prosiect, Leighton Rees, ‘bydd y cynllun yn darparu cyfle gwych i ragor o bobl gerdded neu seiclo i’r gwaith.’

Explore our sectors