GRIFFITHS YN TREIALU TANWYDD HVO GWYRDDACH AR BROSIECT PONT DYFI

Fel rhan o’n hymrwymiad i gyflawni Sero Net erbyn 2030, mae Griffiths wedi buddsoddi er mwyn treialu a chyflwyno Tanwydd HVO (Diesel Gwyrdd). Mae Griffiths yn falch o weithio gyda’n partneriaid cyflenwi Olew dros Gymru (a fydd yn ailfrandio fel Gwyrdd dros Gymru cyn hir) a’n cwsmer, Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Prosiect Pont Dyfi ydy’r cyntaf o’n safleoedd yng Nghymru i ddechrau treialu. Bydd data o’r treial hwn a’n safleoedd treialu yng Ngogledd Dyfnaint yn cael eu defnyddio wrth i ni benderfynu sut bydd Griffiths yn mynd a HVO yn ei flaen fel rhan o’n rhaglen datgarboneiddio.

Mae HVO yn tarddu o nifer o wahanol fathau o olewau llysiau, megis had rêp, blodau’r haul, ffa soia ac olew palmwydd, yn ogystal â brasterau anifeiliaid. Mae Griffiths yn prynu ei holl HVO o ffynonellau cynaliadwy sydd wedi’u tystysgrifo gan y Cynllun Tystysgrifo Cynaliadwyedd a Charbon Rhyngwladol (ISCC).

Mae ein hymchwiliadau cynnar wedi dod i’r casgliad bod modd defnyddio HVO mewn peiriannau diesel confensiynol heb addasu’r peiriannau na’r tanciau a modd ei ddefnyddio’n bur neu wedi’i gymysgu â diesel ac mae hynny’n hwyluso ein proses o drawsnewid i fod yn fusnes adeiladu HVO yn unig.

Ymhellach, mae ein hymchwiliadau wedi canfod bod ddefnyddio HVO yn gallu helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd at 90% o gymharu â diesel ffosil. Yn ogystal â lleihau ein hallyriadau carbon, mae hyn yn gwella ansawdd yr aer yn y cymunedau ble rydyn ni’n gweithio.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Griffiths, Stephen Tomkins:

Mae’n destun cyffro i mi bod Griffiths yn arwain y fenter hon ymhlith contractwyr yng Nghymru. Os bydd yn llwyddiannus, rydym yn edrych ymlaen at ei gyflwyno ar draws ein portffolio o brosiectau.

Dywedodd Carys Jones o’n partner yn y gadwyn gyflenwi, Olew dros Gymru:

Fel rhan o’n proses o drawsnewid i fod yn Gwyrdd dros Gymru, rydym yn falch o gyflenwi Olew Llysiau wedi’i Hydrodrin (HVO) i Griffiths yn eu safle ym Mhont Dyfi, Machynlleth. Mae Griffiths ac Olew dros Gymru yn ddau fusnes Cymreig balch sy’n rhannu’r un angerdd ac ymrwymiad i gymunedau ac economi Cymru drwy Ddyfodol Gwyrddach.

I ymuno â’r tîm o Griffiths, daeth Chwaraewyr Rygbi Cymru a Llysgenhadon Olew dros Gymru, George North, Leigh Halfpenny a Dan Lydiate.

Explore our sectors