Rydym yn falch o gyhoeddi bod Griffiths wedi ennill nid un, ond DWY wobr o fri yng Ngwobrau Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) Wales Cymru eleni!
Gwobr George Gibby am Gryfhau Pont Afon Ebwy
Mae ymroddiad ein tîm i ragoriaeth ym maes peirianneg wedi cael cydnabyddiaeth gyda Gwobr George Gibby. Mae prosiect Cryfhau Pont Afon Ebwy yn enghraifft o’n hymrwymiad i arloesi a diogelwch wrth ddatblygu seilwaith.
Gwobr Arbennig y Cadeirydd am Gynllun Peilot Rheoli Llifogydd yn Naturiol Dwyran
Anrhydedd mawr oedd cael derbyn Gwobr Arbennig y Cadeirydd am ein gwaith eithriadol ar Gynllun Peilot Rheoli Llifogydd yn Naturiol Dwyran. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos ein hymrwymiad diysgog i stiwardiaeth amgylcheddol a gwrthsefyll llifogydd.
Yn ogystal â’r cyflawniadau hyn, roedden ni’n falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr arall:
Gwaith Gwella Argae a Chronfa Ddŵr Trebeddrod
Mae ein hymroddiad i wella seilwaith dŵr wedi sicrhau lle i ni ar y rhestr fer ar gyfer Gwaith Gwella Argae a Chronfa Ddŵr Trebeddrod.
Pont Stryd y Nant
Mae ein dull arloesol o ymdrin â gwaith peirianneg pontydd wedi galluogi Griffiths i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer ein prosiect Pont Stryd y Nant. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cydnabyddiaeth am ein hymrwymiad i atebion trafnidiaeth diogel a chynaliadwy.
Gwaith Ymchwilio i Dirlithriad ac Adfer ar yr A40 Ffordd Osgoi Aberhonddu
Gan weithio’n agos gyda Mott MacDonald, Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), a Geotechnical Engineering, roedd Griffiths yn falch o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr A40 Ffordd Osgoi Aberhonddu. Roedd yn gyfle anhygoel i gael effaith gadarnhaol ar ein seilwaith.
Wrth i ni ddathlu’r buddugoliaethau hyn ac edrych ymlaen at y dyfodol, rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â Thîm Griffiths. Mae ein swyddi gwag presennol ar ein gwefan. Fel arall, mae croeso i chi anfon eich CV aton ni drwy ein gwefan https://griffiths.co.uk/join-our-team/
#LlwyddiantGriffiths #GwobrauICEWalesCymru #RhagoriaethPeirianneg #Cynaliadwyedd