MAE TECHNOLEG RHEOLI PEIRIANNAU YN CHWARAE RÔL HANFODOL AR EIN ‘TAITH TUAG AT SERO NET’

Yn Griffiths, rydyn ni’n deall bod gennym ran hanfodol yn y gwaith o fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Felly, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ganfod ffyrdd arloesol o weithio’n fwy clyfar, yn fwy diogel ac mewn modd mwy amgylcheddol gyfeillgar.

Er bod adeiladu yn hanfodol er mwyn creu byd gwell, rydyn ni’n gwybod bod y gwaith yn gyfrannwr arwyddocaol at effeithiau amgylcheddol, felly ein cenhadaeth ni ydy creu busnes cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhan o’r daith tuag at Sero Net ydy’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud mewn perthynas ag effaith ein Peiriannau a’n Cludiant ar yr amgylchedd. Mae ein Cyfarwyddwr Peiriannau a Chludiant, Adrian Davies a’i dîm o weithwyr proffesiynol angerddol yn benderfynol o adael ôl-troed cadarnhaol a llywi dyfodol y diwydiant adeiladu. Maen nhw eisoes yn gwneud cynnydd clodwiw tuag at gyflawni’r nod hwn.

Un o’r mentrau newydd y mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed arni ydy cyflwyno technoleg glyfar i reoli peiriannau.

Dywedodd Adrian Davies: “Mae technoleg rheoli peiriannau GPS wedi bod gyda ni ers pum mlynedd gyda nifer o wneuthurwyr gwahanol, ond roeddwn i’n gwybod bod yna ffordd fwy effeithiol o weithio.”

Ym mis Mehefin 2022, dechreuodd Griffiths ar brosiect uchelgeisiol, gan weithio’n agos gyda Sealand Survey Centre i ddatblygu system wedi’i theilwra i ateb anghenion Griffiths. Cafodd technolegau rheoli peiriannau Topcon a meddalwedd Sitelink3D eu hymgorffori yn ein system, ac mae wedi newid pethau’n gyfan gwbl. Mae modd bellach i ni gysylltu o bell â’n peiriannau o unrhyw le yn y byd, gwirio cynhyrchiant dyddiol, cael diagnosis ar gyfer unrhyw namau, ac yn bwysicaf oll, defnyddio ein meddalwedd clyfar i ganfod gwelliannau effeithlonrwydd er mwyn lleihau ein hôl-troed carbon.

Eglurodd Adrian: “Mae ein gweithredwyr wedi cydio’n gadarn yn y dechnoleg rheoli peiriannau. A dweud y gwir, y sylwadau dw i’n eu clywed ganddyn nhw ydy ‘sut roedden ni’n ymdopi cyn cael technoleg rheoli peiriannau Topcon a Sitelink3D?’ Mae’r manteision rydyn ni’r eu profi yn enfawr. Ar ein Cynllun ar yr A40 i Lywodraeth Cymru, er enghraifft, mae Sitelink3D a thechnoleg rheoli peiriannau yn ein helpu i ddarparu llwybr teithio llesol yn effeithlon drwy leihau’r amser segur, sydd yn ei dro wedi gwella cynhyrchiant a lleihau’r amser y bydd ein peiriannau a’n cyfarpar yn troi’n segur – ac mae hyn oll yn helpu i gael llai o wastraff a defnydd carbon ac i adeiladu mewn modd llawer mwy cynaliadwy.

“Rydyn ni wedi cyflwyno’r technolegau hyn i’n holl safleoedd, gan gynnwys Bae Colwyn, ble cawson ni’r dasg o leihau erydu ar yr arfordir. Drwy ddefnyddio technoleg rheoli peiriannau, gallwn ni osod pob un carreg floc ar yr union ongl i sicrhau’r gostyngiad mwyaf posib yn egni’r tonnau.

“Mae technoleg rheoli peiriannau wedi helpu wrth adeiladu systemau diogelu rhag llifogydd ym Mhont Dyfi hefyd. Unwaith eto, gwnaeth hyn leihau amser segur y peiriannau er mwyn sicrhau y gallen ni gwblhau’r prosiect cyn gynted â phosib er cyfleustod a diogelwch y gymuned gyfagos.

“Yn y pen draw, mae’r newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n cyflawni pob prosiect yn ein helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ac i adeiladu ar gyfer y dyfodol.”

Peidiwch â dibynnu ar air Adrian yn unig ynglŷn â hyn. Dywedodd Andrew Clifton, sy’n Uwch Beiriannydd Cefnogi yn Topcon Positioning GB: “Gan gydweithio â phartner dosbarthu Topcon, Sealand Survey Centre, mae Griffiths wedi bod yn defnyddio datrysiadau Topcon i wella cynhyrchiant a lleihau costau, ac ar yr un pryd, wedi bod yn gwella diogelwch a lleihau eu hôl-troed carbon er mwyn helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r effaith gadarnhaol y mae technoleg Topcon wedi’i gael ar brosiectau Griffiths – mae’n hyfryd gweld busnes mor flaengar sydd wedi cydio o ddifrif mewn technoleg adeiladu digidol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Griffiths a Sealand Survey Centre ar lawer o brosiectau eraill.”

Yn Griffiths, rydyn ni’n deall na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Luke McHugh, Rheolwr Gyfarwyddwr Sealand Survey Centre, ei Cyfarwyddwr Technegol, Matthew Ingram a’u tîm anhygoel. Rydyn ni’n annog gweithredwyr peiriannau eraill i ddilyn ein harweiniad ac i gydio’n gadarn mewn technoleg rheoli peiriannau.

Dywedodd Luke McHugh: “ Griffiths oedd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i redeg nifer o safleoedd o bell drwy ddefnyddio cefnogaeth o bell, trosglwyddo ffeiliau, adroddiadau awtomatig ar ganlyniadau adeiladu ac adroddiadau am bwysau ar y tryciau halio drwy Sitelink3D.

Drwy ddiweddaru fflyd Griffiths sydd â Thechnoleg Rheoli Peiriannau, mae Adrian wedi cael gostyngiad o 80% yn y galwadau allan i safleoedd ac mae’r safleoedd bellach yn gallu gweithio’n fwy diogel ac effeithlon drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae hyn oll wedi sicrhau fflyd fwy cynaliadwy i Adrian.”

Mae Griffiths yn credu’n gryf mewn rhannu’r arferion gorau er lles yr amgylchedd a bydden ni’n annog cwmnïau adeiladu eraill i ystyried y dull arloesol hwn o ddefnyddio technoleg rheoli peiriannau. Mae croeso i gydweithwyr o’r holl sector gysylltu â ni er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i’r holl ddiwydiant adeiladu.

Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod sut cafodd hyn ei gyflawni!

 

Explore our sectors