Mae Griffiths yn falch iawn o rannu’r adroddiad cynnydd diweddaraf ar ein prosiect Pont Dyfi:
Mae’r holl waith dur a’r gwaith o adeiladu dec y bont bellach wedi’i gwblhau, sy’n garreg filltir bwysig yn y prosiect hwn.
Ar hyn o bryd, mae ein tîm ar y safle’n gweithio’n galed ar orffeniadau’r bont, gan gynnwys sicrhau bod y dec yn dal dŵr, y parapetau a gosod cyrbiau draenio.
Mae gwaith gosod wyneb y ffordd, goleuadau stryd ac arwyddion hefyd ar y gweill, gan sicrhau diogelwch a chyfleustra i’r cyhoedd.
Mae Griffiths hefyd yn gweithio’n ddiwyd ar ddraenio ac amddiffyn rhag sgwrio er mwyn sicrhau hirhoedledd y bont.
Diolch i’r holl drigolion lleol am eich amynedd a’ch cefnogaeth wrth i ni barhau i adeiladu dyfodol gwell i’n cymuned.
#PontDyfi #AdeiladuGwellProsiectau #ProsiectauGriffiths