Mae Griffiths wedi trawsnewid hen ardd yn Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yng Nglynebwy i fod yn ardal ddysgu allanol ar gyfer y dysgwyr ieuengaf.
Wedi iddo ymweld ychydig cyn cyfnod clo COVID i siarad â’r disgyblion am ei yrfa a’i fusnes, fe gydiodd yr ysgol a’i disgyblion yng nghalon ein cyn-berchennog, Mr Alun Griffiths. Addawodd wrthynt, petaen nhw’n cynllunio eu parth dysgu allanol delfrydol, y byddai’n helpu i wireddu’r cynlluniau.
Mae’r ardal newydd wedi’i chwblhau bellach, ac yn cynnwys cylch stori, cegin fwd, mannau gweithio, ardaloedd mathemateg a llythrennedd, gweithgareddau datblygu corfforol, llwyfan a hyd yn oed twnnel a phont.
Mae’r plant a’r staff wrth eu boddau â’u parth dysgu newydd a dweud y lleiaf.
Dywed Pennaeth yr ysgol, Keri Smith:
“Roedd gardd y cyfnod sylfaen yn lle digon llwm, gyda dim ond tŷ chwarae yno, a doedd dim gofod allanol wedi’i neilltuo gyda ni ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a oedd yn cefnogi’r dysgu i’r plant.
“Newidiodd hyn oll yn dilyn ymweliad â’r ysgol gan Alun Griffiths, a oedd wedi’i drefnu gan dîm allgymorth addysgol anhygoel y cwmni, a dyma ni heddiw gyda’r gofod cwbl ryfeddol yma ble gall ein plant ddysgu a chwarae. Mae’n ardderchog bod y cwmni lleol hwn yn rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i gyrraedd eu potensial – pwy a ŵyr, efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n rhan o’u gweithlu yn y dyfodol… Does dim modd i ni ddiolch digon iddyn nhw! Diolch hefyd i Michele Jones, ein Cydlynydd STEM yn yr ysgol, sydd wedi gweithio’n agos gydag Alun Griffiths yn cynllunio a chyflawni’r prosiect.
Dywed Mr Alun Griffiths:
“Pan ymwelais i ag Ysgol Rhos-y-Fedwen, gwnaeth ymroddiad a brwdfrydedd y staff dros roi’r addysg orau i’r plant adael cryn argraff arna i. Gwelais beth oedd y bwlch yn addysg y Cyfnod Sylfaen ac fe gynigiais helpu. Drwy’r cydweithio rhwng yr ysgol a’n tîm ni, dw i’n gobeithio y bydd yr hyn sydd wedi’i greu yn hwb i addysg y dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar ac yn y dyfodol, gobeithio y byddan nhw yn y diwydiant adeiladu gan fod angen pobl wych arnon ni. Mae hi wedi bod yn bleser cael cefnogi Ysgol Rhos-y-Fedwen.
Mae disgwyl hefyd i’r ysgol gael gwaith ailfodelu helaeth fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru. Bydd peth o’r gwaith hwn yn creu cyfleoedd i’r ysgol weithio’n agosach fyth gyda theuluoedd a’r gymuned leol yn ehangach, sy’n rhywbeth y mae Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn ymfalchïo’n fawr ynddo.
Ychwanegodd Mr Smith:
Rydyn ni wrth galon y gymuned ac mae ein teuluoedd yr un mor bwysig i ni â’r plant eu hunain. Mae’r ysgol yn wynebu cyfnod hynod gyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael rhannu’r holl fanylion gyda’n teuluoedd a’r gymuned.
Dywed Gareth Davies sy’n llywodraethwr yn yr ysgol ac yn gynghorydd lleol dros ward Rasa:
Mae Rhos-y-Fedwen yn ysgol anhygoel sydd wrth galon y gymuned yma yn Rasa, ac rwy’n hynod falch o fod yn Llywodraethwr yno dros y blynyddoedd diwethaf a chael gweld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.
Mae cyfnod fydd hyd yn oed yn fwy positif yn wynebu’r ysgol gyda gwelliannau cyffrous i adeilad yr ysgol wedi’u cynllunio er mwyn gwella cyfleoedd dysgu ac addysgu, gan ddechrau gyda’r ardal allanol wych yma, diolch i Alun Griffiths (Contractors) Ltd. Am beth gwych i’w wneud i’n dysgwyr, diolch yn fawr.
Cyfrannodd Griffiths setiau o hetiau caled, festiau llachar a menig amddiffyn i’r ysgol hefyd.
Roedd gan y plant ran ganolog yn y gwaith o ddewis beth roedden nhw eisiau ei gael yn yr ardal newydd ac ar hyn o bryd, maen nhw wrthi’n pleidleisio dros enw.