Mae Griffiths yn arbenigwyr ar osod seilbyst / angorau ar safleoedd rheilffordd, priffyrdd, arfordirol, preswyl a masnachol. Rydym yn defnyddio technegau gosod seilbyst ac angorau bach ar gyfer gosodiadau amrywiol, gan gynnwys sylfeini ar gyfer adeileddau, atal adeileddau rhag dymchwel neu ymgodi, ac hefyd i sefydlogi llethrau neu i gywiro symudiadau niweidiol i adeileddau presennol, e.e. Pentanau pontydd neu furiau cynnal.