GEODECHNEGOL
BOLLTIO CREIGIAU A SYSTEMAU DIOGELU RHAG CWYMPIADAU CREIGIAU

Mae ein tîm bolltio creigiau hynod alluog yn defnyddio systemau rhwydi goddefol neu weithredol i reoli ac atal cwympiadau creigiau o lethrau creigiog naturiol neu rai a grëwyd gan ddyn. Yn aml, bydd creigiau rhydd yn cael eu disodli a’u symud cyn bolltio.

  • Pob sector a lleoliad – Mae AG wedi gosod bolltiau ar safleoedd rheilffordd, priffyrdd, arfordirol, preswyl a masnachol. O lefel y ddaear i uchder mawr, uwchben dŵr ac ati.
  • Disodli a symud creigiau – Cael gwared ar greigiau a malurion rhydd o’r llethr cyn sefydlogi neu ddefnyddio system rhwydi. Gellir gwneud hyn yn fecanyddol neu â llaw ac fel arfer, mae’n cael ei oruchwylio gan weithredwyr sy’n cael mynediad â rhaffau.
  • Gosod mecanyddol – Bolltiau creigiau yn cael eu gosod drwy fecanwaith fydd naill ai wedi’i gysylltu â pheiriant mawr neu ar ffrâm ddur ag olwynion / sled.
  • Gallu i ymestyn ymhell – gellir gosod driliau ar beiriannau cloddio sy’n estyn ymhell, llwythwyr telesgopig a chraeniau.. Mae AG wedi cyflawni prosiect ble roedd angen ymestyn 38m.
  • Cyfarpar Drilio – Driliau morthwyl niwmatig a hydrolig Ripamonti gyda strôc dynnu rhwng 1 a 4m o hyd.
  • Diamedr a hyd – o 33mm i 100mm o ddiamedr a hyd at 10m o hyd.
  • Amrywiaeth o ddeunyddiau – Defnyddir bariau craidd solet, bariau dur wedi’u rhagdynhau, bariau GRP a bariau dur gwrthstaen. Angorau mecanyddol â gosodiadau o fariau solet neu geblau. Rhwyllwaith o siâp hecsagon neu ddiemwnt.
  • Growtio – Systemau ôl-growtio.. Systemau growtio resin (wedi’i bwmpio neu â chetris).
  • Profi  – Gallu o fewn y cwmni i gynnal profion tynnu amrywiol a chynhyrchu adroddiadau ar y profion gyda dadansoddiadau.
  • Gosod systemau rhwystro/amddiffyn rhag cwympiadau creigiau – Gosod rhwystrau tirlithriadau / malurion, Gosod ffensys dal cwympiadau creigiau, Gosod ffedogau rhwystro, Gosod rhwystrau caled

CASE STUDIES

EXPLORE MORE GEODECHNEGOL