GEODECHNEGOL
MYNEDIAD Â RHAFFAU A GWEITHIO AR UCHDER

Mae gan Griffiths dros 40 mlynedd o brofiad o gael mynediad â rhaffau a gweithio ar uchder, felly ni yw’r partneriaid delfrydol ar gyfer lleoliadau anodd eu cyrraedd na fyddai modd mynd atynt trwy ddulliau confensiynol. Mae Griffiths yn aelod achrededig o Gymdeithas Fasnachol y Diwydiant Mynediad â Rhaffau (IRATA).

Mae holl dechnegwyr mynediad â rhaff Griffiths yn weithredwyr aml-sgil sy’n gallu cwblhau gweithiau amrywiol.

  • Archwiliadau Concrit – ar adeileddau concrit fel pontydd
  • Atgyweirio Concrit / Bricwaith – atgyweiriadau i rannau o bontydd, traphontydd, muriau ac ati.
  • Archwilio ac Atgyweirio Gwaith Maen a Chlymau Wal – adeileddol
  • Archwilio Cladin a Ffasadau – adeileddol
  • Archwilio Seilos (y tu mewn)– gweithfeydd cemegol
  • Archwilio Systemau Gwasgedd (y tu mewn) – fel arfer o fewn gweithfeydd nwy
  • Archwilio Simneiau – cyrn dur a choncrit
  • Archwilio Paent ac Araenau Galfanedig – fel arfer ar bontydd, tyrbinau gwynt a mastiau.
  • Archwiliadau LOLER – i adeileddau codi anodd eu cyrraedd
  • Gosod Cladin– ar adeiladau.
  • Archwilio ac Atgyweirio Gwaith Dur – adeileddau
  • Archwilio ac Ailosod Gwydr – ar adeiladau uchel
  • Arolygon Cyflwr Hanesyddol – ar gyfer adeiladau adeileddau eraill
  • Archwiliadau Daearegol– ar glogwyni a llethrau
  • Archwilio Llafnau – ar dyrbinau gwynt
  • Geodech – cefnogi pob agwedd ar y busnes geodechnegol, h.y. gwaredu llystyfiant, rhyddhau creigiau a malurion rhydd, drilio

EXPLORE MORE GEODECHNEGOL