GEODECHNEGOL
HOELIO PRIDD

O lefel y ddaear i brosiectau dros ddŵr ac ar uchder, mae Griffiths wedi gosod bolltiau ar safleoedd rheilffordd, priffyrdd, arfordirol, preswyl a masnachol.

Mae Griffiths yn defnyddio systemau hoelio pridd (wedi’u cyfuno’n aml â gorffeniad o rwyllwaith dur neu goncrit wedi’i chwistrellu) i sefydlogi llethrau neu agor toriadau ar gyfer seilwaith hen a newydd.

  • Gosod mecanyddol – Bolltiau creigiau yn cael eu gosod drwy fecanwaith fydd naill ai wedi’i gysylltu â pheiriant mawr neu ar ffrâm ddur ag olwynion / sled.
  • Gallu i ymestyn ymhell – gellir gosod driliau ar beiriannau cloddio sy’n estyn ymhell, llwythwyr telesgopig a chraeniau.. Mae AG wedi cyflawni prosiect ble roedd angen ymestyn 38m.
  • Cyfarpar Drilio – Driliau morthwyl hydrolig Ripamonti gyda strôc dynnu rhwng 1 a 4m o hyd.
  • Diamedr a hyd – fel arfer o 76mm i 220mm o ddiamedr a hyd at 20m o hyd. Angorau mecanyddol gyda phennau pig hwyaden.
  • Amrywiaeth o ddeunyddiau – Bariau craidd gwag fel arfer, ond gall hynny amrywio. Angorau mecanyddol â gosodiadau o fariau solet neu geblau. Rhwyllwaith o siâp hecsagon neu ddiemwnt, rhwyllwaith o ddur cyfnerthedig a choncrid wedi’i chwistrellu.
  • Growtio – Techneg drilio a growtio gyda’i gilydd.
  • Profi  – Gallu o fewn y cwmni i gynnal profion tynnu amrywiol a chynhyrchu adroddiadau ar y profion gyda dadansoddiadau.

CASE STUDIES

EXPLORE MORE GEODECHNEGOL