Mae peirianneg daear yn elfen allweddol mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu, a dyma’n aml sy’n gyfrifol am y rhyngwyneb rhwng y ddaear ac adeileddau fel muriau cynnal, pontydd, twneli, ac adeiladau.
Mae gan dîm geodechnegol Griffiths ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy’n cynnwys gosod gwaith dur, gosod estyll a gwaith brics. Mae hyn yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaeth i gynnwys darpariaeth lawn ein hunain, nid yn unig o elfennau peirianneg daear prosiectau, ond yr adeileddau hefyd.
- Concrit cyfnerthedig – Gosod gwaith dur, defnyddio systemau estyll pren a rhai wedi’u teilwra ar gyfer trawstiau, muriau, slabiau a sylfeini
- Concrit Màs – Slabiau, rafftiau, gorchuddion, cicwyr a mowldiau llithro
- Concrit wedi’i gastio’n barod – Gosod elfennau concrit sydd wedi’u castio’n barod, gan gynnwys trawstiau pontydd, slabiau llawr sylfaen ac unedau muriau cynnal
- Adeiladu â modiwlau dur – Gosod rhannau o ddur ffabrigedig ar gyfer pontydd, llwyfannau, sylfeini, muriau brenhinbyst
- Sylfeini pontydd ac adeiladau – Adeiladu ar ffurf stribedi, padiau, rafftiau a chapiau pileri