Mae arbenigwyr coed Griffiths wedi’u hyfforddi i gynnig gwaith clirio a rheoli llystyfiant, arolygon coed, cynnal a chadw coed, a thorri coed, a hynny’n aml mewn tirwedd serth ac anodd ei gyrraedd. Mae ein gweithredwyr wedi’u tystysgrifo gan NPTC i gynnal gwaith coedyddiaeth amrywiol, gan gynnwys dringo coed a thorri o’r brig i lawr.