Ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) ym mis Medi 2014, mae tîm Griffiths wedi bod yn brysur yn adeiladu llwybrau teithio llesol mewn modd mwy diogel, mwy clyfar a mwy amgylcheddol gyfeillgar.
Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded neu seiclo ar gyfer teithiau pob dydd byr. Mae’n cynnwys teithio i’r ysgol, i siopau, i’r gwaith, at wasanaethau ac i ganolfannau trafnidiaeth. Mae hefyd yn cynnwys defnydd o gadeiriau olwyn trydan neu sgwteri symudedd. Yn aml, bydd y llwybrau hyn wedi’u lleoli ar ochrau priffyrdd prysur, ac maent yn galw am waith cymhleth i reoli traffig a rhyngweithio â’r cyhoedd sy’n teithio a gofal wrth gynnal perthynas â rhanddeiliaid.