SEILWAITH
ADFYWIO TREFOL

Rydym yn adnabyddus am ein harbenigedd mewn adfywio trefol a pharciau a gerddi cyhoeddus, ac rydym wedi ennill nifer o wobrau yn y maes hwn. Drwy ddefnyddio gwaith tirlunio meddal a chaled, ac ymgorffori nodweddion pensaernïol a gweithiau celf cyhoeddus, rydym yn cyflawni cynlluniau sy’n sensitif i’r amgylchedd trefol presennol ac i anghenion y cyhoedd, busnesau lleol a’r trigolion.

Mae ein profiad yn ein galluogi i asesu a chynllunio’r gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a’n gweithlu, a tharfu cyn lleied â phosib ar eich bywydau. Rydym yn ymfalchïo yn y ffordd y byddwn yn cysylltu â rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat, ac yn mynd ati’n rhagweithiol i ddelio ag unrhyw broblemau er mwyn sicrhau y ceir y canlyniad a ddymunir i’r prosiect.

Mae cynnal perthynas dda â rhanddeiliaid yn allweddol i lwyddiant y prosiectau hyn. Byddwn yn mabwysiadu strategaeth gyfathrebu sy’n addas ar gyfer lleoliad a chymhlethdod y cynllun ble bynnag y bo. Ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnwys yn ein cynlluniau cysylltu, mae:

  • Dosbarthu newyddlenni
  • Canolfannau ymwelwyr cyhoeddus
  • Cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid
  • Cyflwyniadau rheolaidd i garfannau allweddol

CASE STUDIES

EXPLORE MORE SEILWAITH