Fel contractwr sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer holl brif ddarparwyr y cyfleustodau, mae ein profiad o gyflawni’r math hwn o waith yn cwmpasu adeiladu is-orsafoedd trydan a chytundebau fframwaith sy’n cynnwys y prif ddargyfeiriadau gwasanaeth ar gyfer:
Rydym hefyd yn gallu cynnig dadansoddiad beirniadol o’r gofynion dargyfeirio gwasanaeth sy’n gysylltiedig â phrosiectau mawr ar briffyrdd ac yng nghanol dinasoedd. Llwyddwyd i sicrhau arbedion costau ac amser ar nifer o brosiectau trwy ailgynllunio ac addasu. Mae llawer o’r gwaith dargyfeirio mawr wedi’i gyflawni mewn ardaloedd prysur iawn a chanol dinasoedd gydag ychydig iawn o darfu trwy ddefnyddio drilio cyfeiriadol lle bynnag y bo’n addas.
Mae ein sectorau arbenigol ar gyfer prosiectau cynhyrchu pŵer yn cynnwys y canlynol:
Ynni Biomas
Wedi gweithio ar nifer o brosiectau â phroffil uchel, mae gennym brofiad uniongyrchol o adeiladu gweithfeydd ynni biomas. Ymhlith y cynlluniau hynny, mae’r gwaith Ynni Biomas cyntaf yng Nghymru ar raddfa fasnachol i Western Wood Bioenergy, a Chyfleuster Boeler Biomas ym Melin Goed BSW ym Mhontnewydd-ar-Wy.
Ffermydd Gwynt
Mae ein sectorau arbenigol sy’n gysylltiedig â datblygu ffermydd gwynt yn cynnwys:
Niwclear
Gallwn ddarparu gwasanaeth adeiladu a dymchwel llawn ar gyfer y sector niwclear a thanwydd glo ac rydym yn gontractwyr cymeradwy ar gyfer yr holl brif gynhyrchwyr pŵer.
Mae ein tîm profiadol, cwbl integredig yn gallu darparu gwasanaethau unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.