Gyda chyfleuster ymateb brys 24/7/365, mae tîm Griffiths yn barod bob amser.
Yn ystod stormydd diweddar, darparodd Griffiths beiriannau ac adnoddau ar gyfer y gwaith atgyweirio brys i Network Rail ym Mostyn o fewn llai na 24 awr. Roedd y stormydd, ynghyd â’r llanw uchel a gwasgedd aer isel, wedi peri difrod sylweddol i Forglawdd Mostyn ac wedi gwasgaru gweddillion ar draws y trac.
Pan ddaeth yr alwad frys gan Network Rail, rhoddodd Griffiths beiriannau, gyrwyr a ffitwyr ar waith yn anhygoel o gyflym. Gyda’r gwaith yn parhau am 24 awr y dydd, roedd 25 o weithredwyr peiriannau ar waith ar ei anterth. Roedd dau ffitiwr wedi’u lleoli’n barhaol ar y safle gyda chefnogaeth ein hadran peiriannau mewnol.