RHEILFFORDD
ADEILADU GORSAFOEDD NEWYDD A GWELLIANNAU

Mae gan dîm Griffiths brofiad hynod werthfawr yn y sector hwn.

Mae pentref Bow Street yng Ngheredigion, er enghraifft, yn manteisio ar gysylltiadau newydd diolch i’r gwaith i ailagor Gorsaf Bow Street, a fu ynghau i drenau ers 1965. Hanner cant a chwech o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r prosiect £8m, y treuliwyd 11 mlynedd yn ei gynllunio, wedi ailgysylltu’r orsaf o’r diwedd â Lein y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig.

Yn dilyn agoriad yr orsaf newydd ym mis Chwefror 2021, dywedodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr ac i’r ardal. Bydd yr orsaf yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd i’r ardal, ac ynghyd â’r llwybrau teithio llesol cyfagos, bydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn modd cynaliadwy.”

CASE STUDIES

EXPLORE MORE RHEILFFORDD