Adrian, ein Cyfarwyddwr Peiriannau a Chludiant, sy’n gyfrifol am gynnal ein hadran Peiriannau a Chludiant yn llwyddiannus. Drwy ganolbwyntio’i ymdrechion ar ddiogelwch, effeithlonrwydd a thechnoleg o’r radd flaenaf, mae Adrian yn dal i ganfod datrysiadau mwy cynaliadwy i broblemau pob dydd. Mae Adrian gyda ni ers 1990 ac wedi cyflawni nifer o swyddi Goruchwylio a Rheoli gwahanol i Griffiths. Yn ogystal â chyfoeth o brofiad amrywiol mewn Peirianneg Sifil, mae ganddo ddealltwriaeth gadarn hefyd o’r ffordd y mae busnes Griffiths yn gweithio.