Andrew Loring

Andrew Loring

Cyfarwyddwr Masnachol - Seilwaith

Andrew ydy’r Cyfarwyddwr Masnachol ar gyfer Seilwaith yn Griffiths ers 2016. Ymunodd Andrew â Griffiths yn 2006 fel Rheolwr Masnachol ar Fframwaith hynod lwyddiannus SWTRA, cyn symud i swydd Rheolwr Gweithrediadau Fframwaith yn 2009 a Rheolwr Contractau yn 2012. Cyn ymuno â Griffiths, bu Andrew yn gweithio i Gontractwyr Peirianneg Sifil Haen 1 - Costain, Balfour Beatty a Morgan Sindall. Andrew sy’n gyfrifol am gynnal gwaith masnachol ein Hadran Seilwaith yn llwyddiannus, ac mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ar gynlluniau Peirianneg Sifil amrywiol, o Beirianneg Sifil Trwm, Cynlluniau Traffyrdd Cymhleth, Dymchwel, Tai a Thir Cyhoeddus. “Rwy’n credu bod diogelwch, effeithlonrwydd ac ansawdd yn allweddol ar gyfer cyflawni contractau adeiladu yn llwyddiannus. Rwy’n gwneud pob ymdrech i gyfathrebu’n eglur, yn ddiffuant ac yn frwdfrydig ynglŷn â phwrpas a chyfeiriad y gwaith. Rwy’n annog cydgynhyrchu, yn croesawu gwahaniaethau barn ac yn cefnogi egwyddorion tegwch a rhoi cyfle i bawb. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig canolbwyntio yn fy rôl i ar ffactorau economaidd a chynaliadwy er mwyn sicrhau canlyniadau masnachol llwyddiannus. Mae bod yn rhagweithiol wrth reoli a lliniaru risg yn ogystal â chyfleoedd yn sicrhau y byddaf yn gwybod am bethau sy’n effeithio ar faterion economaidd, y farchnad a chwsmeriaid cyn gynted ag y bo modd. Rwy’n ymdrechu i ddatblygu a hyrwyddo partneriaethau masnachol, cynnal rheolaeth gadarn ar gyllid, adnoddau a chontractau, gan sicrhau’r incwm a’r perfformiad masnachol gorau posib i’r sefydliad.

CYMWYSTERAU A CHYRFF PROFFESIYNOL

  • MRICS
  • MCICES
  • BSc (Anrh)
  • Cerdyn Du CSCS
  • NVQ Lefel 6 Rheolwr Adeiladu
  • SMSTS
  • Cymorth Cyntaf
Connect on Linked

Want to join our team?

Visit our careers page below and become a part of our exciting journey.

Careers page

CAREERS

We build better careers

Latest roles:

Careers page