Bleddyn Escott

Bleddyn Escott

Pennaeth Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd

Bleddyn ydy ein Pennaeth Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd ac mae’n gyfrifol am Iechyd, Diogelwch a Llesiant, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol a gweithgareddau ansawdd a sicrwydd. Bleddyn sydd â’r cyfrifoldeb am reoli ein mesurau i gydymffurfio â’r gyfraith a rheoliadau, ynghyd ag ysgogi gwelliannau parhaus ym mhopeth a wnawn. Mae Bleddyn yn reolwr prosiectau ac arbenigwr ar newid hynod frwdfrydig ac uchelgeisiol ac mae wedi rhoi strategaethau ar waith ym mhob rhan o’r busnes i ysgogi gwella parhaus yn ogystal â chadw’n staff yn ddiogel drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD

  • Peiriannydd Sifil gydag ystod eang o sgiliau mewn perthynas â systemau rheoli, archwilio a phob agwedd ar Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd.
  • Profiad yn y diwydiannau sifil, dŵr a rheilffyrdd. Wedi cyflawni swyddi fel ymgynghorydd, contractwr a chleient.
  • Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) – Lefel 5 Sgiliau Arwain a Rheoli
  • Y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH) – Tystysgrif Gyffredinol
  • ISO 9001 (Systemau Rheoli Ansawdd) – Archwilydd Arweiniol
  • Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) – Tystysgrif mewn Rheoli Amgylcheddol
  • Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) – Diploma mewn Arferion Busnes Cynaliadwy
  • Gwregys Melyn Lean Six Sigm
Connect on Linked

Want to join our team?

Visit our careers page below and become a part of our exciting journey.

Careers page

CAREERS

We build better careers

Latest roles:

Careers page