Simon ydy ein Cyfarwyddwr Cyn Adeiladu ac mae’n gyfrifol am ein gweithgareddau datblygu busnes, tendrau, marchnata, a chyfathrebu. Simon sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu llif cynaliadwy o waith i gefnogi cyfeiriad strategol y busnes.
Ymunodd Simon â Griffiths yn 2010 ac mae wedi cyflawni nifer o swyddi gwahanol ar draws y busnes, gan roi dealltwriaeth eang iddo ynglŷn â’r ffordd y mae Griffiths yn gweithio ac, yn bwysig iawn, sut gallwn ni ychwanegu gwerth ar gyfer ein cwsmeriaid. Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bu Simon yn datblygu a gweithredu ein strategaeth twf er mwyn cyflawni cynlluniau ehangach y busnes ar gyfer tyfu yn Ne-Orllewin Lloegr.