Cyfarwyddwr Arwynebau
Ers 2008, mae Ian wedi bod yn Bennaeth Arwynebau ac wedyn yn Gyfarwyddwr Arwynebau yn Griffiths, gan reoli amrywiaeth o brosiectau peirianneg sifil. Cyn ymuno â Griffiths, bu Ian yn gweithio i Gyngor Sir Morgannwg Ganol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel Peiriannydd Preswyl. Enillodd ei brofiad o weithrediadau gosod arwynebau gyda Tarmac National Contracting ble bu’n gweithio fel Uwch Reolwr Contractau. Mae’r profiad manwl hwn yn galluogi Ian i nodi datrysiadau cynaliadwy sy’n darparu’r gwerth gorau ac yn lleihau effeithiau niweidiol ar fusnesau lleol, trigolion a rhanddeiliaid.
Mae gan Ian brofiad helaeth o reoli prosiectau niferus, gan roi ei dimau cyflawni profiadol ar waith yn gyflym, a chydweithio â chwsmeriaid er mwyn cyflawni amcanion fframweithiau.
SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD
- Sgiliau lefel uchel mewn cynllunio, caffael ac adeiladu cynlluniau peirianneg sifil a gosod arwynebau ffyrdd cymhleth ble ceir rhyngwyneb sylweddol â’r cyhoedd a risgiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol uwch
- Hyrwyddwr datrysiadau peirianegol ac amgylcheddol arloesol a chreadigol, yn darparu cyngor dibynadwy ynglŷn ag adeiladwyedd.
- Cyfathrebwr rhagorol sy’n gallu ymgysylltu’n rhagweithiol â’r holl randdeiliaid er mwyn cyflawni amcanion y prosiect.
- Cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth o fewn Contractau o bob ffurf, gan gynnwys Contractau NEC ECC er mwyn darparu’r gwerth gorau
- Arweinyddiaeth gadarn – gall ysgogi a rheoli timau prosiectau mawr amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth helaeth am anghenion ac amcanion Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ansawdd a rhoi systemau rheoli ar waith
- Rheoli risg a rhagfynegi costau
- Caffael a gosod mathau amrywiol o Asffalt ac arwynebau eraill yn briodol
- Mae Ian wedi datblygu dealltwriaeth dechnegol ddofn o’r holl ddeunyddiau arwyneb ac mae’n gynghorydd gwerthfawr i’n timau darparu a’n cleientiaid.
Connect on Linked