Ian, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, sy’n gyfrifol am ddarparu ein holl fframweithiau ar gyfer Dŵr Cymru a phrosiectau seilwaith yng Nghanolbarth Lloegr yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae’n sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol yn cael eu dyrannu ac yn ysgogi’r arfer gorau a gwella parhaus ar draws yr adran.
Mae Ian yn Beiriannydd Siartredig sydd wedi bod yn y diwydiant peirianneg sifil am dros 30 mlynedd gan ymgymryd â swyddi amrywiol mewn cwmnïau ymgynghori a chontractio ac mae hynny’n ei alluogi i adnabod anghenion cwsmeriaid Griffiths yn gyflym a darparu gwasanaeth wedi’i deilwra.
Mae’n gallu gweld y ‘darlun mawr’ ac mae’n herio tîm Griffiths i weithio ar eu gorau ac i ddefnyddio eu casgliad o sgiliau yn briodol.