Jason Shannon

Jason Shannon

Cyfarwyddwr Gweithrediadau Geoddechnegol

Mae Jason, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau Geodechnegol, yn gyfrifol am arwain adran o staff arbenigol er mwyn cyflawni amrywiaeth eang o Brosiectau Geodechnegol a Mynediad â Rhaff ar ran Cwsmeriaid yn ein holl ranbarthau gweithredol. Yn ystod ei wyth mlynedd ar hugain gyda Griffiths, mae Jason wedi cyflawni nifer o swyddi Goruchwylio a Rheoli yn ein hadrannau Seilwaith a Rheilffyrdd. Mae ei brofiad helaeth o weithio mewn nifer o sectorau gwahanol yn y Diwydiant Peirianneg Sifil wedi ei alluogi i gael dealltwriaeth unigryw o’r ffordd y mae pob un o’n hunedau busnes yn gweithio ar lefel cell.

SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD

  • Cymrawd yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil
  • Pymtheg mlynedd ar hugain o brofiad mewn sectorau amrywiol yn y Diwydiant Peirianneg Sifil, gan gynnwys Priffyrdd, Adfywio Trefol, Rheilffyrdd, Arfordirol a Geodechnegol
  • Hynod effeithiol yn datrys problemau gan sicrhau bod pob cleient yn cael y gwerth gorau posib am arian
  • Hanes o gyflawni prosiectau o ansawdd uchel ar amser yn unol â disgwyliadau cyllidebol
  • Cyfrannwr allweddol at ddatblygu peiriannau a chyfarpar arloesol sydd wedi gwella iechyd a llesiant gweithlu Griffiths
Connect on Linked

Want to join our team?

Visit our careers page below and become a part of our exciting journey.

Careers page

CAREERS

We build better careers

Latest roles:

Careers page