Richard Tidmarsh

Richard Tidmarsh

CYFARWYDDWR SEILWAITH

Richard ydy ein Cyfarwyddwr Seilwaith ac mae’n gyfrifol am gyflawni ein prosiectau Seilwaith yn llwyddiannus. Mae Richard yn ymdrechu i gyflawni gwaith yn gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch, ansawdd, cyllidebau, rhaglenni a bodlonrwydd cwsmeriaid.

Ymunodd Richard â Griffiths yn 1996 a gweithiodd ei ffordd trwy’r busnes yn Ne Cymru. Mae ganddo brofiad aruthrol mewn Peirianneg Sifil a dealltwriaeth gadarn o’r ffordd y mae busnes Griffiths yn gweithio.

SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD

  • Peiriannydd Sifil gydag arbenigedd mewn caffael, dylunio, adeiladu, a throsglwyddo.
  • Profiad ym meysydd seilwaith priffyrdd, lliniaru llifogydd, cyfleustodau, tir cyhoeddus, teithio llesol, cludiant integredig, a fframweithiau cynnal a chadw.
  • Wedi profi’i hun yn arweinydd, mae’n ymroddedig i greu a datblygu timau rhyngddisgyblaethol cryf.
  • Arddull cydweithredol naturiol wrth ddatblygu cysylltiadau rhagorol gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ogystal â chyswllt parhaus â chwsmeriaid.
Connect on Linked

EISIAU YMUNO Â’N TÎM?

Ewch i’n tudalen gyrfaoedd isod ac ymunwch â’n taith gyffrous.

Tudalen Gyrfaoedd

GYRFAOEDD

ADEILADU GWELL GYRFAOEDD

Swyddi gwag diweddaraf:

Tudalen Gyrfaoedd